Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro John Harries, a’r Athro Christopher Gaskell, a benodwyd yn ddiweddar yn Gadeirydd ar y panel, oedd yn cyhoeddi enwau’r gwyddonwyr a fydd yn cynnal yr adolygiad arbenigol hwn.
Aelodau’r panel fydd:
- Yr Athro Syr Mansel Aylward CB, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd Prifysgol Caerdydd.
- Yr Athro Malcolm Bennett FRCPath FHEA, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Milhaint Genedlaethol ac Athro Patholeg Filfeddygol ym Mhrifysgol Lerpwl.
- Yr Athro Bridget Emmett, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen Biogeogemeg, Pennaeth Adran a Phennaeth Safle yn y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), Bangor.
- Yr Athro Charles Godfray CBE FRS, Cymrawd o Goleg Iesu, Rhydychen ac Athro Hope yn Adran Sŵoleg Prifysgol Rhydychen.
- Yr Athro Dirk Pfeiffer, sy’n Athro Epidemioleg Filfeddygol ac yn Bennaeth Gwyddorau Clinigol Milfeddygol yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol (Prifysgol Llundain).
Yr Athro Gaskell, Cadeirydd y Panel, yw Prifathro’r Coleg Amaethyddol Brenhinol yn Cirencester. Wrth siarad am y penodiadau i’r panel, dywedodd:
“Rwyf yn fodlon iawn â’r aelodau a benodwyd i’r panel. Gyda’i gilydd, gallant gynnig amrywiaeth o brofiadau a safbwyntiau a fydd yn ein galluogi i gynnal asesiad trylwyr a phriodol o’r dystiolaeth a fu’n sail ar gyfer y rhaglen dileu TB. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â’r panel i fwrw ymlaen â’r gwaith pwysig hwn mewn maes sydd, yn ddi-os, yn un anodd.”
Bydd y panel yn gwahodd a chymryd tystiolaeth gan arbenigwyr yn y maes, fel y bo’n briodol. Disgwylir iddynt gwblhau eu hadroddiad erbyn yr hydref.











