Dyna neges y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Alun Davies, a gynigiodd fwy o sicrwydd heddiw i ffermwyr sy'n ystyried ymuno ag Elfen Cymru Gyfan Glastir.
Hefyd, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi awgrymu i Lywodraeth Cymru y byddai unrhyw waith cyfalaf gan ffermwyr sy'n penderfynu gadael y cynllun wedi hynny oherwydd "darpariaethau gwyrdd" posibl yn gymwys ar gyfer eu taliad llawn.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Rydyn ni'n cydweithio â llywodraeth y DU i ddatblygu ymateb i becyn diwygio PAC y Comisiwn Ewropeaidd, yn enwedig o ran materion lle hoffen ni weld newidiadau. Mae'r trafodaethau hyn yn parhau.
"Fodd bynnag, hoffwn i sicrhau ffermwyr sydd yn dal heb benderfynu a ydyn nhw am ymuno ag Elfen Cymru Gyfan Glastir na fyddan nhw dan anfantais. Dw i'n gobeithio y bydd y sicrwydd y galla i ei roi heddiw yn annog pobl sy'n ystyried ymuno â'r cynllun i wneud hynny."











