Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi cytuno bod ardal sydd oddeutu 230 cilomedr sgwâr yn siroedd Wrecsam a Sir Ddinbych i gael statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Yn sgil y cyhoeddiad, bydd ffin bresennol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yn cael ei hymestyn yn sylweddol.
Dyma’r tro cyntaf i Weinidogion Cymru ddynodi Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a dyma’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf yng Nghymru ers 26 o flynyddoedd.
Gwnaeth y Gweinidog y penderfyniad yn dilyn ystyried gorchymyn gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi Gorchymyn i ddynodi bod Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cael statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
“Mae’r amgylchedd naturiol yn hanfodol i economi Cymru ac mae’n hollbwysig ei fod yn cael ei ddiogelu a’i reoli mor effeithiol ac effeithlon a phosibl er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i Gymru. Bydd rhoi statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i’r ardal hon yn helpu i ddiogelu ei harddwch naturiol ac yn hybu datblygu cynaliadwy.
“Mae’n bosibl hefyd y gall statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gynyddu nifer yr ymwelwyr sy’n dod i fwynhau harddwch naturiol yr ardal. Rwy’n hyderus y bydd cymunedau lleol yn parhau i elwa ar fanteision y datblygiad yn sgil llunio cynllun rheoli a sefydlu Cydbwyllgor Cynghori."











