Cynllun yw hwn i roi sticeri i ffermwyr eu glynu ym Mhasportau Gwartheg unigol er mwyn cofnodi pryd oedd y tro diwethaf y cafodd prawf TB ei gynnal ar yr anifail. Mae Bwrdd Rhanbarthol Dileu TB Gogledd Cymru eisoes wedi rhoi’r cynllun ar waith yn llwyddiannus.
Bellach, mae Byrddau Rhanbarthol Dileu TB Caerfyrddin a Chaerdydd yn rhoi’r cynllun ar waith ledled Cymru.
Cynllun yw hwn lle mae’r sawl sy’n cynnal prawf TB yn rhoi sticer i’r ffermwr ar gyfer pob anifail sydd wedi cael prawf TB clir ac a fydd yn cael ei symud neu’i werthu o fewn y 60 diwrnod nesaf. Yna, mae’n rhaid i’r ffermwr roi’r sticer a’r wybodaeth ganlynol yn y pasport:
- Dyddiad Diwrnod Cyntaf y Prawf TB
- Llofnod
- Enw’r profwr TB
Dywedodd Peredur Hughes o fwrdd Rhanbarthol Caernarfon:
“Mae blwyddyn ers cyflwyno’r cynllun Sticeri Pasport yng Ngogledd Cymru ac maent bellach yn ddefnyddiol iawn i’r diwydiant ffermio. Mae’n ffordd gyflym ac effeithiol o nodi pryd y cafodd y prawf TB diwethaf ei gynnal ar wartheg sy’n cael eu symud i farchnad neu eu gwerthu o fferm i fferm.
Dywedodd Dyfrig Siencyn, Prif Weithredwr Arwethwyr Farmers Mart, Dolgellau:
“Mae’r cynllun sticeri profion TB ar basportau wedi bod yn boblogaidd iawn gyda gwerthwyr a phrynwyr. O weld canlyniadau profion TB yr anifail, gallant wneud eu trefniadau profi TB eu hunain.”
Croesawodd Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru y fenter a dywedodd:
“Er bod yn rhaid cynnal profion cyn symud ar anifeiliaid yng Nghymru, mae’r cynllun sticeri, sy’n gynllun gwirfoddol, yn helpu llawer o ffermwyr. Dylech ystyried hanes profion TB y fferm rydych chi’n prynu gwartheg wrthi. Bydd y cynllun hwn yn gwneud pethau’n haws i ffermwyr brynu a gwerthu gwartheg."











