Mae Cymru yn arwain y ffordd ar ôl dechrau codi am fagiau siopa ddydd Sadwrn 1 Hydref. Bellach, mae pobl ledled Cymru yn talu 5c am bob bag siopa untro newydd.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:
"Dydyn ni ddim am weld unrhyw un yn gorfod talu am fagiau a dw i am atgoffa pobl bod modd osgoi'r tâl drwy gofio mynd â'u bagiau eu hunain gyda nhw pan fyddan nhw'n mynd i siopa. Mae'n syniad da cadw cwpl o fagiau yng nghefn eich car neu yn eich poced.”
Mae'r tâl yn berthnasol i fagiau siopa untro, bagiau papur a bagiau ar gyfer bwyd cyflym sydd wedi'i becynnu. Mae'n berthnasol ym mhob math o siopau, gan gynnwys archfarchnadoedd, siopau ar y stryd fawr a siopau lleol.
Nod y tâl yw lleihau'n sylweddol nifer y bagiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru, er mwyn lleihau sbwriel a gwastraff, ac annog pobl sy'n byw yng Nghymru ac ymwelwyr â'r wlad i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Yn ôl yr hyn y mae pobl sy’n gweithio mewn siopau mawr yn ei ddweud, mae’r tâl eisoes wedi lleihau'n sylweddol nifer y bagiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru ac mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio eu bagiau eu hunain i siopa. Mae pobl sy’n gweithio mewn siopau bach hefyd wedi nodi bod hyn yn ffordd o arbed arian gan nad oes angen iddyn nhw brynu bagiau siopa untro bellach. Dw i wrth fy modd bod pobl ledled Cymru wedi ymaddasu cystal i'r tâl."
Mae Prifysgol Cymru wedi gwneud gwaith ymchwil sy'n dangos bod tri o bob pump o bobl yng Nghymru yn cefnogi'r tâl.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y bydd y tâl yn lleihau nifer y bagiau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru hyd at 90%. Rydyn ni’n disgwyl derbyn y ffigurau cyntaf ynghylch y defnydd o fagiau siopa, ers i'r tâl gael ei gyflwyno, ym mis Mai 2012.











