Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rheoliadau drafft newydd a fydd yn ei helpu yn yr ymdrech i reoli byd bridio cŵn a gwella ansawdd bywyd cŵn yn gyffredinol.
Hon yw'r ail gyfres o reoliadau bridio cŵn y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori yn eu cylch. Cafodd y gyfres gyntaf ei diwygio i adlewyrchu barn y bridwyr a oedd eisoes yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol.
Nawr caiff ymgynghoriad 14 wythnos ei gynnal ar y rheoliadau drafft newydd a bydd croeso i bawb sydd â buddiant roi eu barn.
Wrth siarad am y cynlluniau newydd, dywedodd y Gweinidog:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi safonau lles anifeiliaid.
"Fel rhan o'r agenda honno, rydyn ni'n benderfynol o ddelio â bridwyr cŵn diegwyddor sy'n dod ag enw drwg i fridwyr cŵn cyfrifol.
"Mae'r rheoliadau drafft dw i'n eu lansio heddiw wedi'u llunio gan roi sylw i'r ymatebion i'n hymgynghoriad cyntaf a chyfres o gyfarfodydd gyda phobl berthnasol, sydd wedi'i gwneud yn bosibl i ni ystyried yn llawn amrywiaeth o safbwyntiau a phryderon.
"Byddan nhw'n ein helpu ni'n fawr iawn i sicrhau bod safonau lles cŵn yng Nghymru yn eithriadol o uchel a dw i am bwyso ar unrhyw un sydd â buddiant i roi eu barn fel rhan o'r broses ymgynghori."
Dyma'r prif newidiadau ers yr ymgynghoriad cyntaf:
- newid i'r trothwyon er mwyn i rywun sydd â thair gast fagu allu cael hyd at dri thorraid bob blwyddyn heb drwydded;
- cyfyngiad ar werthu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i rywun sydd â thair gast fagu ac sy'n hysbysebu tri thorraid i'w gwerthu bob blwyddyn, neu'n eu cyflenwi mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, gael trwydded;
- cymhareb staff:cŵn o 1:30;
- erbyn hyn, mae cŵn pedigri yn cael eu diffinio i sicrhau bod cofnodion priodol yn cael eu cadw a bod mesurau microsglodynnu yn cael eu dilyn;
- mae'n rhaid cael trwydded flynyddol ar gyfer safleoedd trwyddedig.
Siaradodd Gweinidog yr Amgylchedd hefyd am ei ddiddordeb mewn cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i bob ci yng Nghymru gael microsglodyn. Dywedodd:
"Mae eisoes yn ofynnol i fridwyr cŵn trwyddedig yng Nghymru roi microsglodyn ym mhob anifail ar eu safle cyn iddo gael ei symud neu ei werthu.
"Fodd bynnag, rydyn ni nawr yn ystyried cynlluniau a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i bob ci yng Nghymru gael microsglodyn. Byddai hyn yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i fod yn fwy cyfrifol ac yn helpu i wella lles cŵn ledled Cymru."
Bydd yr ymgynghoriad ar y rheoliadau drafft ar fridio cŵn ar agor tan 27 Mawrth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori drwy broses arall ynghylch cynlluniau microsglodynnu gorfodol yn 2012.











