Aeth y Gweinidog i weld Fferm Wynt Whitelee sydd dim ond 20 munud o ganol Glasgow.
Mae 140 o dyrbinau gwynt eisoes yn gweithio ar y safle ac mae 75 arall yn cael eu hadeiladu. Hyd yn oed heb y tyrbinau newydd, mae’r fferm wynt yn cynhyrchu 322MW o drydan ar hyn o bryd, sy’n ddigon o bweru 180,000 o gartrefi.
Dywedodd y Gweinidog:
“Roedd yn ddiddorol iawn ymweld â Fferm Wynt Whitelee i weld faint o drydan gwyrdd, glân sy’n cael ei gynhyrchu yno. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynaliadwyedd sy’n ceisio cynnig atebion hirdymor i’r heriau ry’n ni’n eu hwynebu.
“Roedd hefyd yn arbennig o ddiddorol gweld pa mor werthfawr yw’r fferm wynt i’r gymuned leol, yn enwedig gan fod canolfan groeso ar y safle, a ddenodd 100,000 o ymwelwyr ychwanegol yno y llynedd, yn ogystal â 70 cilometr o lwybrau. Mae’r safle’n werthfawr iawn yn economaidd i’r ardal.
“Mae Whitelee yn enghraifft ragorol lle mae ynni adnewyddadwy, twristiaeth a rheoli tir cynaliadwy yn gweithio law yn llaw i fod o fudd i’r gymuned ehangach."
Tra’r oedd yn yr Alban, cyfarfu’r Gweinidog â John Swinney, Ysgrifennydd Cyllid, Cyflogaeth a Thwf Cynaliadwy yr Alban.
Roedd y Gweinidog yn awyddus i ddysgu mwy am y ffordd y mae’r system cynllunio a chydsyniadau ynni yn gweithio y yr Alban, gyda’r bwriad o annog a sbarduno prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Hefyd bu’n trafod prosesau’r Alban ar gyfer ymgynghori â busnesau a chymunedau lleol i sicrhau eu bod yn gweld manteision a chyfleoedd prosiectau ynni adnewyddadwy.
Dywedodd y Gweinidog:
“Rydyn ni’n gwybod y bydd ynni adnewyddadwy yn ein helpu i wynebu heriau’r newid yn yr hinsawdd. Ar adeg lle mae cyflenwadau ynni traddodiadol yn lleihau, mae’n cynnig ffordd lân a chynaliadwy o gadw’r goleuadau ymlaen.
“Mae hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd economaidd aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru’n manteisio ar y cyfleoedd hyn i’r eithaf ac yn cefnogi datblygiad economi carbon isel gweithgar, gan greu swyddi newydd. Mae’r ymweliad â’r Alban heddiw yn rhan arall o’n gwaith i wneud hynny."











