Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau bod arian ychwanegol ar gael ar gyfer Arbed, cynllun ynni strategol llwyddiannus Llywodraeth Cymru, sy’n buddsoddi arian i wella cartrefi ledled Cymru mewn ardaloedd fel Sir y Fflint, Blaenau Gwent, Ceredigion ac Abertawe.
Bydd y £6.6m yn golygu cynnal gwelliannau mewn mwy na 1500 o gartrefi i arbed ynni – gwelliannau fel inswleiddio waliau allanol, bwyleri dosbarth A rhad-ar-ynni a defnyddio mathau mwy effeithiol o danwydd.
Mae’r arian eisoes yn golygu bod gan bobl yn rhai o ardaloedd tlotaf Cymru gartrefi cynhesach a biliau tanwydd is. Mae’r cynllun yn creu cyfleoedd gwaith hefyd yn y sectorau adeiladu ac ynni adnewyddadwy.
Wrth sôn am yr arian ychwanegol, meddai Gweinidog yr Amgylchedd:
“Rhaid inni wneud yn siwr bod cartrefi Cymru’n defnyddio ynni’n fwy effeithiol os ydym am lwyddo i drechu tlodi tanwydd.
“Mae rhaglen Arbed eisoes yn dod â lles i gymunedau ym mhob rhan o’r wlad ac yn sicrhau bod cartrefi yn rhai o ardaloedd mwyaf amddifad Cymru’n gynhesach ac yn haws eu cynhesu.
“Hefyd yn ogystal, mae’n ein helpu i gyrraedd rhai o’r targedau lleihau carbon anodd sydd wedi’u gosod yn ein Strategaeth Newid Hinsawdd ac yn creu cyfleoedd gwaith newydd yn rhai o’n cymunedau llai cefnog.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu neilltuo £6.6m arall i gefnogi’r rhaglen lwyddiannus hon ac rwy’n disgwyl ymlaen at ei weld yn gwneud gwahaniaeth go iawn i filiau ynni a chysur cartrefi yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.”
Mae’r arian yn ganlyniad i ariannu canlyniadol, ac arian cyfalaf ychwanegol mewn dyraniad diweddar gan y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt. Mae’n codi’r gwariant ar ran gyntaf Arbed i £76m, gyda £36.6m o hwnnw’n dod o Lywodraeth Cymru. Disgwylir i’r £6.6m sbarduno cwmnïau ynni a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hefyd i wario mwy.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cychwyn ail ran cynllun Arbed cyn hir. Mae’r cynllun yn cael ei ran-ariannu trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a bydd yn arwain at fuddsoddi £45m arall yng nghartrefi Cymru.











