Mae’r Gweinidog wedi atgoffa ffermwyr mai dim ond rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth y ceir llosgi’n gyfreithlon mewn ardaloedd ucheldir, a rhwng 1 Tachwedd ac 15 Mawrth mewn ardaloedd eraill.
Dywedodd y Gweinidog ei bod yn hollbwysig bod ffermwyr yng Nghymru yn ufuddhau gan fod ffigurau 2010-11 yn dangos y bu mwy o danau glaswelltir yma na mewn rhannau eraill o Brydain.
Dywedodd y Gweinidog:
“Er bod llosgi grug a glaswellt yn ffordd draddodiadol o reoli tir yng Nghymru, gall fod yn beryglus ac achosi niwed i fywyd gwyllt ac amgylchedd Cymru.
“Rwy’n annog ffermwyr i fod yn gyfrifol a sicrhau nad ydyn nhw’n llosgi y tu allan i’r tymor. Hefyd hoffwn eu hatgoffa i sicrhau bod ganddyn nhw gynllun llosgi ysgrifenedig, yn hysbysu’r gwasanaethau tân ac achub lleol cyn dechrau llosgi, yn sicrhau bod y tywydd yn addas, ac yn sicrhau bod digon o bobl wrth law i reoli’r tân.
“Drwy ddilyn y cyngor hwn gallwn ni sicrhau bod llosgi amaethyddol mor ddiogel â phosibl, ac yn achosi cyn lleied â phosibl o niwed i dirlun hardd a bywyd gwyllt Cymru.”
Mae rhagor o wybodaeth ar gael i ffermwyr am losgi diogel ar wefan Llywodraeth Cymru.











