Aeth y Gweinidog i ymweld ag Ysgol Gynradd Pentre-baen yn y Tyllgoed i ddysgu mwy sut y mae cynllun Achub y Plant, FAST (Teuluoedd ag Ysgolion Ynghyd) yn helpu teuluoedd yn yr ardal.
Mae’r prosiect FAST yn cael ei gefnogi gan yr archfarchnad Morrisons, sy’n cyfrannu pob 5c sy’n cael ei godi o werthu bagiau siopa untro yn eu siopau yng Nghymru i helpu plant sy’n byw mewn cymunedau sydd â lefelau cyrhaeddiad is yn draddodiadol.
Ers i’r tâl am fagiau ddod i rym yng Nghymru ym mis Hydref 2012, mae Morrisons wedi rhoi £135 mil i achosion amgylcheddol ac achosion da.
Mae prosiect FAST yn gweithio i wella’r berthynas rhwng ysgolion, teuluoedd a’r gymuned leol mewn ymdrech i sicrhau bod plant o ardaloedd mwy difreintiedig yn llwyddo yn yr ysgol ac yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Mae’r rhaglen wirfoddol wyth wythnos sy’n digwydd y tu allan i oriau ysgol ar agor i bob teulu yn yr ardal sydd â phlant ifanc, ac yn caniatáu i rieni â’u plant gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y cyd fel darllen, canu, a choginio. Mae’r gweithgareddau yn anelu at ddatblygu a magu hyder y plant yn ogystal â’u teuluoedd.
Wrth drafod ei ymweliad, dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd:
“Dwi’n teimlo’n freintiedig o fod wedi cyfarfod teuluoedd sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen, ac yn bwysicach wedi elwa o raglen FAST, ac o glywed pa mor bositif ydyn nhw ynglŷn â’r rhaglen.
“Dwi’n llongyfarch Morrisons ar eu penderfyniad i ddefnyddio’r arian sydd wedi dod o’r tâl am fagiau siopa untro i gefnogi achos mor werthfawr.
“Wrth gwrs, gwir bwrpas ein tâl yw gweld lleihad sylweddol yn y defnydd o fagiau siopa yng Nghymru, fodd bynnag mae’n anorfod bod angen bagiau ar brydiau.
“Mae’r manwerthwr yn pasio’r arian ymlaen o’r tâl am fagiau siopa i achosion amgylcheddol ac achosion da, ac mae’n wirioneddol galonogol i weld sut y mae’r elw o’r tâl yn dechrau dod o fudd uniongyrchol i bobl a chymunedau Cymru.
Ychwanegodd David Hewitt, Rheolwr Cymunedol Morrisons:
“Mae Morrisons yn falch iawn o ddefnyddio’r elw o’r tâl am fagiau siopa yng Nghymru i gefnogi rhaglen sy’n cael canlyniadau cystal, ac sy’n rhoi’r cyfle i blant yng Nghymru ragori, gartref ac yn yr ysgol.”
Mae elusen Achub y Plant eisoes wedi rhedeg prosiect Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd yng Nghaerdydd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Hoffent gyflwyno’r rhaglen ledled Cymru gyfan.
Meddai James Pritchard, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru:
“Mae FAST yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r teuluoedd sy’n cymryd rhan ynddi trwy ddod ag elfennau allweddol at ei gilydd, fel eu hysgol, eu teulu a’r gymuned, a thrwy sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth y maen nhw’i angen i ffynnu. Mae’n rhoi tystiolaeth glir bod cau y blwch cyrhaeddiad hwnnw yn bosib, a dyna pam ein bod am i bob rhiant, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn cymunedau heriol, gael yr hawl i ymuno â’r cynllun.”











