Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Rhaglenni Ewropeaidd, wnaeth y cyhoeddiad, a hynny yn y Royal Oak, Betws-y-Coed, wrth lansio Prosiect Cydweithredu Cymru.
Bydd yr arian yn helpu'r bartneriaeth rhwng Pub is the Hub a Cadwyn Clwyd (Gr?p Gweithredu Lleol LEADER yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint) i ddatblygu gwasanaethau lleol mewn tafarndai gwledig ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae prosiectau tebyg yng ngweddill y Deyrnas Unedig wedi cynnwys agor siopau, swyddfeydd post a hyd yn oed clwb sinema, gan gynnig cyfleodd gwaith lleol yn ogystal ag ehangu'r dewis o wasanaethau yn yr ardal.
Amcan y prosiect yw cysylltu â thros 90 o dafarndai a chynnig cymorth ariannol i ryw 60 sy'n barod i arallgyfeirio i ddarparu gwasanaethau newydd i'w cymunedau, mewn wyth sir wledig: Pen-y-bont, Bro Morgannwg, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Meddai'r Dirprwy Weinidog:
"Rwy'n gwybod bod y fenter Pub is the Hub wedi llwyddo i ddod â llawer o fuddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pwysig i gymunedau cefn gwlad.
"Mae tafarndai, fel llawer o fusnesau bach gwledig eraill, yn gallu'i chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, yn enwedig os mai gwasanaethau tafarn yn unig y maen nhw'n eu darparu. Rwy'n siwr y gwnaiff yr hyfforddiant, y cyngor a'r arweiniad sy'n cael eu cynnig i dafarndai a'u cymunedau trwy'r prosiect hwn eu hysbrydoli i greu ffynonellau incwm newydd fydd yn eu cynnal at y dyfodol. Bydd y tafarndai yn eu tro yn dod â budd i'w cymunedau trwy ddarparu gwasanaethau sylfaenol hanfodol."
Noddir y Prosiect Cydweithredu trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 ac mae hwnnw'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Meddai John Longden, Prif Weithredwr Pub is The Hub:
"Wrth i un busnes gau mewn cymuned wledig, mae'n cael effaith andwyol ar lawer o fusnesau eraill gan arwain, fel dominos, at gwymp gwasanaethau lleol eraill. Mewn llawer i ardal wledig, y dafarn wledig yw'r unig fusnes o werth cymdeithasol sy'n dal i fod. Nid achub tafarndai yw prif waith Pub is the Hub, ond yn hytrach eu cefnogi a'u hannog i arallgyfeirio ac i gynnal gwasanaethau lleol yn y byd cyfnewidiol sydd ohoni."











