Amcan FareShare Gogledd Cymru yw ailddosbarthu bwyd o ansawdd da sydd dros ben o’r diwydiant bwyd, i sefydliadau mewn cymunedau dan anfantais yng Nghonwy a Sir Ddinbych.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Gweinidog, fod cyllid o £685,000 i gefnogi datblygu cynllun FareShare Cymru ar draws Cymru. Bydd FareShare Gogledd Cymru’n derbyn £70,000 o’r cyllid hwn i wella’u cyfleusterau i storio bwyd oer a bwyd sydd wedi rhewi.
Yn ystod ei ymweliad, meddai’r Gweinidog:
“Mae prosiectau fel hyn yn dangos sut gall busnesau weithio gyda grwpiau cymunedol i leihau gwastraff a helpu grwpiau dan anfantais.
“Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol i ailgylchu 70% o wastraff erbyn 2025 ac i fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Bydd hyn yn ein galluogi i elwa ar y manteision cymdeithasol ac economaidd a ddaw i gymdeithas sy’n ailgylchu llawer.
“Ymwelais â depo FareShare Caerdydd yn gynharach eleni, ac mae fy ymweliad bore ’ma wedi bod llawn mor ddiddorol. Mae sefydliadau fel FareShare a Crest yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned ac rwy’n annog cwmnïau sy’n cynhyrchu a gwerthu bwyd i ystyried y manteision posibl sydd i gydweithio â nhw.”
Sefydlodd FareShare ganolfan yng Ngogledd Cymru ym mis Medi 2010, gan ddarparu bwyd o ansawdd da i grwpiau dan anfantais. Cyflenwyr bwyd, gan gynnwys archfarchnadoedd mawr a chwmnïau bwyd lleol sy’n rhoi’r bwyd. Fel arall, byddai’r bwyd yn mynd i safle tirlenwi.
Mae Crest a FareShare yn cydweithio â stordai, cyfanwerthwyr a gwneuthurwyr i helpu i fwydo cannoedd o bobl dan anfantais ac agored i niwed.
Mae cefnogi mentrau lleihau gwastraff ac ailddefnyddio ar y cyd â busnesau, yn gam allweddol o’r Rhaglen Lywodraethu i fyw mewn ffordd sy’n parchu’r amgylchedd.











