Mae’r adroddiad yn edrych ar y cynnydd cychwynnol ers cyhoeddi’r strategaeth ym mis Hydref 2010. Mae’n canolbwyntio ar waith Llywodraeth Cymru i ostwng allyriadau 3% y flwyddyn yn ogystal â’i hymrwymiad i baratoi Cymru ar gyfer effeithiau hinsawdd sy’n newid yn y dyfodol.
Ymysg y llwyddiannau sy’n cael sylw yn yr adroddiad mae cynllun ynni strategol Llywodraeth Cymru, Arbed. Roedd ei gynllun sgrapio boeleri a’i raglen effeithlonrwydd ynni cartref o gymorth i wneud 25,000 o gartrefi Cymru yn haws ac yn rhatach i’w gwresogi yn ystod 2010-11.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen yn dda gyda’r gwaith o gyflwyno’r fenter Canolfannau Teithio Cynaliadwy, sy’n darparu gwell rhwydweithiau trafnidiaeth integredig ac yn hyrwyddo iechyd a lles.
Mae’n cadarnhau’r gefnogaeth a’r cyngor cyson y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau ar effeithlonrwydd ynni a chyfleoedd carbon isel ar gyfer busnesau bach a chanolig, a’i gwaith yn arwain y sector cyhoeddus i leihau allyriadau.
Rhan o hyn yw llwyddiant Llywodraeth Cymru i ostwng ei hallyriadau ei hun o 11% fel rhan o ymgyrch 10:10, â’i gwaith yn annog awdurdodau lleol i ymrwymo i leihau eu hallyriadau hwy yn unol â tharged 3% y Strategaeth. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at erfyn lleihau carbon newydd a fydd yn helpu byrddau iechyd lleol i leihau eu hallyriadau.
Maes arall lle mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yn dda yw’r cynlluniau i leihau allyriadau a ddaw o reoli gwastraff. Yn wir, gan Gymru mae cyfraddau ailgylchu uchaf y DU ar hyn o bryd, o ganlyniad i ymdrechion ar y cyd rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol a chartrefi, ac mae disgwyl y bydd cyfraddau ailgylchu gwastraff yn cyrraedd 50% rhywbryd eleni.
Mae’r adroddiad hefyd yn ymateb i argymhellion diweddar gan Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd am feysydd i weithredu arnynt yn y dyfodol.
Wrth sôn am yr adroddiad, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths:
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos ein bod yn symud ymlaen yn dda iawn i gyflawni’r Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae’n tynnu sylw at y gweithgarwch sy’n digwydd ledled Cymru i leihau ein hallyriadau ac i baratoi ar gyfer hinsawdd sy’n newid.
“Rwy’n arbennig o falch bod ein targedau uchelgeisiol – y llymaf yn y DU – a’n cynnydd wedi cael eu cydnabod gan Gomisiwn annibynnol Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.
“Serch hynny rydyn ni’n gwybod nad oes modd bod yn hunanfodlon am yr agenda heriol hon.
“Rwy’n benderfynol o barhau i ganolbwyntio ar ein gwaith ar draws y sectorau ac i weithio gyda’n partneriaid, ac fe fyddwn yn parhau i annog unigolion, cymunedau a busnesau yng Nghymru i chwarae eu rhan."
Dywedodd Peter Davies, Cadeirydd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd:
"Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y camau sydd wedi’u cymryd i gyflawni’r strategaeth ar Newid yn yr Hinsawdd. Bydd y Comisiwn yn edrych ar yr ymatebion a gafwyd i’n hargymhellion er mwyn sicrhau bod yr holl bolisïau a rhaglenni yn cyd-fynd gyda’r angen i leihau allyriadau carbon ac ymaddasu ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd.
“Mae hyn yn gofyn am ganolbwyntio’n gyson ar effeithlonrwydd ynni, gan greu swyddi a lleihau costau i fusnesau a chartrefi ledled Cymru. Rwy’n croesawu arweiniad Llywodraeth Cymru, sy’n gostwng allyriadau 11% yn ei gwaith ei hun."
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n galed i helpu Cymru i baratoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ac mae wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus a strategaeth genedlaethol newydd ar reoli llifogydd. Mae rhaglen newydd Trosglwyddo Gwybodaeth Ymaddasu hefyd ar waith.











