Lansiwyd Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwydiant Diodydd Cymru heddiw gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies.
Lluniwyd y ddogfen fel ymateb uniongyrchol i bryderon a galwadau’r diwydiant, ac fe fydd yn darparu gwybodaeth arbenigol benodol fel cyngor marchnata a brandio, yn ogystal ag arweiniad a chefnogaeth ynghylch cyfleoedd i allforio cynnyrch.
Mae’r cynllun gweithredu yn ceisio nodi cyfleoedd a gwelliannau y gall cynhyrchwyr diodydd Cymru fanteisio arnynt, ac mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau’r ymchwil marchnad diweddaraf ar gyfer y sector diodydd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Rwy’n falch iawn o lansio Cynllun Gweithredu i’r Diwydiant Diodydd yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru, ac yn falch hefyd bod modd i ni barhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod y sector diodydd yng Nghymru yn gynaliadwy, yn broffidiol ac yn uchel ei broffil.
“Rwy’n hyderus bod potensial mawr i’r diwydiant dyfu ac yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn cynrychioli llais y sector yng Nghymru. Mae’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn bwysig eithriadol i economi’r wlad ac mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i gefnogi a chryfhau’r sector.”
Datblygwyd y Cynllun Gweithredu yn dilyn Uwchgynhadledd Diodydd Cymru a gynhaliwyd yn yr hydref llynedd yn Aberystwyth, dan arweiniad y Dirprwy Weinidog. Casglwyd canfyddiadau allweddol ac argymhellion yno i’w defnyddio wrth lunio’r cynllun i ysgogi datblygiad y sector.
Yn ei Rhaglen Lywodraethu, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth i gynhyrchwyr Cymru, ac mae’r cynllun gweithredu hwn ar gyfer y diwydiant diodydd yn gyfraniad i’r ymrwymiad hwnnw.











