Mae’r adroddiad yn nodi pa mor gynaliadwy y mae pob awdurdod lleol wedi ailgylchu’r gwastraff plastig, gwydr, metel, papur, a chardfwrdd a gasglwyd ganddynt o gartrefi a busnesau.
Yn ystod cyfnod chwe mis yr adolygiad, cafodd bron i 60,000 o dunellau o wastraff eu troi’n ddeunydd neu’n gynnyrch newydd, a chafodd bron i 50,000 o dunellau eu troi’n gompost. Cafodd bron i 10,000 o dunellau eu hailgylchu a bron i 10,000 o dunellau eu hanfon i safle tirlenwi.
Bydd yr ystadegau hyn yn helpu awdurdodau lleol i drefnu eu gwaith i sicrhau eu bod yn ailgylchu cymaint o wastraff ag y bo modd. Bydd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod adroddiadau’n rhoi mwy o wybodaeth i awdurdodau lleol a deiliaid tai.
Meddai Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:
“Mae gan Gymru’r raddfa ailgylchu uchaf yn y DU ac mae cyhoeddi’r adroddiad hwn yn galluogi pobl i weld beth yn union sy’n digwydd i’w gwastraff. Flwyddyn nesaf (2012/13), bydd rhaid i awdurdodau lleol ailgylchu 52% o’u gwastraff i gydymffurfio â thargedau statudol newydd Llywodraeth Cymru.”











