Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog ar ei feic am bedwar diwrnod ar draws Cymru

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths ar daith feic 285 milltir o Gaergybi i Gaerdydd mewn ymgais i dynnu sylw at rai o’r llwybrau beicio hyfryd sydd gennym yng Nghymru.
Dydd Gwener 30 Mawrth 2012

Bydd yn dechrau ar ei daith ar ddydd Sul 1 Ebrill ac mae disgwyl iddo gyrraedd yn ôl i Fae Caerdydd tua 5pm dydd Mercher 4 Ebrill. 

Mae’r Gweinidog yn annog pobl i ddefnyddio beiciau fel ffordd gynaliadwy o deithio, gweithgaredd hamdden ardderchog a ffordd hwyliog o gadw’n heini. Bydd hefyd yn ymweld â rhai atyniadau a phartneriaid allweddol ar y ffordd.

Cyn dechrau ar ei daith, dywedodd y Gweinidog:

“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i wneud y daith feicio 285 milltir o Gaergybi i Gaerdydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at feicio drwy olygfeydd hardd cefn gwlad Cymru, a defnyddio rhai o’r llwybrau beicio enwog sy’n denu cymaint o ymwelwyr i Gymru.

“Er bod 285 milltir o bosib yn ormod i rai, rwy’n annog pawb i fynd allan ar eu beiciau. Mae’n ffordd wych o gadw’n heini, ac yn ffordd bleserus iawn o fwynhau arfordir a chefn gwlad unigryw Cymru, yn arbennig dros wyliau’r Pasg.

“Mae beicio’n ffordd gyflym, rhad a syml o wneud teithiau byr, ac yn gyfle i’n helpu i leihau ein dibyniaeth ar geir a lleihau ein hallyriadau carbon.”

Fel rhan o’i daith feicio bydd y Gweinidog yn ymweld â Choed y Brenin,  un o brif safleoedd hamdden Comisiwn Coedwigaeth Cymru gyda’i llwybrau beicio mynydd byd-enwog.

Bydd yn galw yng Ngharnfagallt, safle’r RSPB yn Rhaeadr sy’n mynd i elwa o’r arian mae Tesco wedi’i gasglu drwy’r cynllun talu am fagiau yng Nghymru, a bydd hefyd yn galw ym Merthyr lle bydd y Gweinidog yn ymuno â grŵp ieuenctid lleol i lanhau sbwriel o ran o Lwybr Taf.

Bydd cynrychiolydd o Sustrans, yr elusen sy’n cefnogi teithio cynaliadwy, ac aelodau o staff Llywodraeth Cymru yn ymuno â’r Gweinidog ar rannau byr o’r daith. 

Bydd arian sy’n cael ei godi yn sgil y daith feiciau yn cael ei drosglwyddo i elusennau swyddogol Llywodraeth Cymru 2012 sef Cymdeithas Alzheimer’s a Tools for Self Reliance Cymru.

Bydd y Gweinidog hefyd yn trydar ar ei daith. Gallwch ei ddilyn @EnviroMinWales.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Mynediad i'r cefn gwlad a'r arfordir

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 30 Mawrth 2012 Yr Amgylchedd Ffermio a chefn gwlad Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i