Gwnaed y cyhoeddiad heddiw gan Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd. Dywedodd y bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng y Cynllun Grant Prosesu a Marchnata a’r Cynllun Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi, sy’n rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13
Mae tua £2 filiwn ar gael ar gyfer bob Cynllun ac fe fydd yn cael ei ddosbarthu drwy rownd ceisiadau cystadleuol.
Dywedodd Mr Davies bod yr hwb yn un pwysig:
“Mae’r ddau gynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth helpu busnesau i ddatblygu a marchnata cynnyrch newydd ac adeiladu a datblygu cadwyni cyflenwi lleol sy’n helpu i ledaenu’r buddiannau economaidd yn ehangach yn ein cymunedau gwledig.
“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r arian ychwanegol hwn heddiw. Mae wedi’i gynllunio i helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol a chynaliadwy drwy ddatblygu cynnyrch newydd a chyrraedd at farchnadoedd newydd, gan greu a diogelu swyddi ac annog cydweithio rhwng cwmnïau.”
Rhagwelir y bydd galw mawr am y grant ac mae busnesau’n cael eu gwahodd i gyflwyno argymhellion ar-lein ar gyfer buddsoddiadau newydd neu ychwanegol.
Bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn meini prawf sy’n cynnwys buddiannau economaidd, creu swyddi, a’r cyfraniad tuag at amcanion y Cynllun Datblygu Gwledig.
Gall busnesau BBaCh cymwys gyflwyno argymhellion ar gyfer prosiectau newydd drwy’r Cynllun Grant Prosesu a Marchnata. O ran y Cynllun Arbedion yn y Gadwyn Gyflenwi, gall noddwyr prosiectau cyfredol a newydd gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau newydd neu weithgareddau newydd a fydd yn ychwanegu gwerth i brosiect cyfredol.











