Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn ymweld â Choed y Brenin wrth feicio ar draws Cymru

Bu Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, yn ymweld â llwybrau beicio Coed y Brenin fel rhan o’r daith feic 285 milltir o un pen o Gymru i’r llall.
Dydd Mawrth 03 Ebrill 2012

Dechreuodd y Gweinidog ei daith feic yng Nghaergybi ddydd Sul 1 Ebrill, gan deithio 65 milltir i Borthmadog i aros y nos.  Gadawodd wedyn am 8 o’r gloch y bore ‘ma, er mwyn beicio 25 milltir i Goed y Brenin.

Mae Coed y Brenin yn un o brif safleoedd hamdden Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac mae’n enwog am y llwybrau beicio mynydd sydd o safon fyd-eang. Mae yno ganolfan i ymwelwyr sydd â chaffi, siop feics a man llogi beiciau, ynghyd â lle chwarae i blant o bob oed a llwybr yn arwain at safle picnic ar lan yr afon.

Wrth siarad yng Nghoed y Brenin, dywedodd y Gweinidog:

“Rydw i wrth fy modd ar y daith feic hon, sy’n mynd â fi 285 milltir o Gaergybi i Gaerdydd. Mae’n wych cael y cyfle i feicio drwy harddwch cefn gwlad Cymru a phrofi cyfleusterau o’r safon orau yn y byd fel y rhai sydd yma yng Nghoed y Brenin.

“Rydw i’n gwybod bod llawer o feicwyr yn ymweld â Chymru yn benodol ar gyfer ein llwybrau beicio a cherdded a’r cyfleusterau sydd gennym i’w cynnig, ac wrth weld y golygfeydd godidog yng Nghoed y Brenin mae’n hawdd gweld pam. Yn wir, denwyd 150,000 o ymwelwyr i Goed y Brenin y llynedd – nifer aruthrol, a newyddion da iawn i’r economi leol.”

“Er bod rhai o’r llwybrau beicio mynydd yma yn heriol iawn, byddwn yn annog unrhyw un i roi cynnig ar feicio. Mae wir yn ffordd arbennig o dda o gadw’n heini ac yn fodd i fwynhau arfordir a chefn gwlad unigryw Cymru, yn enwedig dros wyliau’r Pasg.”

Cafodd y Gweinidog gwrdd â staff ac ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, ac aeth ar daith o amgylch y cyfleusterau hefyd er mwyn gweld sut roeddent wedi datblygu gyda’r miliynau o gymorth ariannol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ac WEFO.

Mae’r ganolfan wedi’i dylunio a’i hadeiladu yn ecolegol a thros frig y coed gwelid golygfeydd godidog o gopa Cader Idris, 3,000 troedfedd o uchder.

Ar ôl gorffen yr ymweliad hwn, bydd y Gweinidog yn beicio 50 milltir i Aberystwyth. Bydd yn cyrraedd yn ôl yng Nghaerdydd tua 5pm ddydd Mercher nesaf.

Gallwch ddilyn y Gweinidog ar Twitter @EnviroMinWales.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Mynediad i'r cefn gwlad a'r arfordir

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 03 Ebrill 2012 Yr Amgylchedd Y Canolbarth
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i