Mae adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Reoli Gwastraff Trefol awdurdodau lleol yn dangos bod pobl wedi ailgylchu bron i hanner (49%) eu gwastraff am yr ail chwarter yn olynol.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod gwastraff gweddilliol y cartref wedi parhau i ddisgyn. Rhwng Hydref a Rhagfyr, cynhyrchiodd bob person yng Nghymru 54 cilogram o wastraff, sef 5 cilogram y person yn llai nag y cynhyrchwyd rhwng Hydref a Rhagfyr 2010.
Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd:
“Rwy’n falch dros ben fod trigolion Cymru’n parhau i reoli eu gwastraff mewn modd cynaliadwy ac ecogyfeillgar ac rwy’n llongyfarch awdurdodau lleol yng Nghymru am chwarae rhan allweddol yn y llwyddiant hwn.
“Mae ailgylchu 49% o’n gwastraff am yr ail chwarter olynol yn hynod o sylweddol gan fod cyfraddau’n dueddol o ddisgyn yn ystod misoedd y gaeaf. Mae hyn yn dangos bod cyfraddau ailgylchu yng Nghymru’n parhau i gynyddu.
“Un rheswm am y cynnydd da rydyn ni’n ei wneud yw bod bob awdurdod lleol yng Nghymru’n casglu gwastraff bwyd bob wythnos. Nid yn unig y mae gwahanu gwastraff bwyd o weddill y sbwriel yn arbed llawer o wastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi, mae’n ein gwneud ni’n fwy ymwybodol o’r bwyd rydyn ni’n ei wastraffu, sy’n aml yn golygu llai o wastraff a biliau bwyd is.”
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Y peth allweddol nawr yw ein bod ni’n parhau i ailgylchu mwy fel y gallwn fodloni’r targedau heriol sydd gennym i ailgylchu 70% erbyn 2025 a pheidio â chynhyrchu unrhyw wastraff erbyn 2050.
“Rwy’n obeithiol iawn y bydd parhau â’n hymdrech yn ystod 2012 yn ein galluogi i ailgylchu mwy na 50% yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Mae hyn yn golygu y byddai llai na hanner ein gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi ac y byddwn yn gwneud elw ar y rhan fwyaf o’n sbwriel. Byddai hyn wirioneddol yn garreg filltir neilltuol.”
“Nid yn unig y mae ailgylchu’n arbed gwastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi, ac yn lleihau allyriadau carbon, mae hefyd yn arbed ynni ac yn sicrhau ein bod yn ailddefnyddio adnoddau gwerthfawr a fyddai fel arall yn pydru o dan y ddaear.”











