Bydd Bangor Mussel Producers; The Lobster Pot; Bay Seafoods; Anglesey Aquaculture o Ogledd Cymru a Selwyn's Seafoods o Dde Cymru yn arddangos dan fantell Llywodraeth Cymru.
Byddant yn ymuno â thua 1600 o arddangoswyr o 140 o wledydd yng Nghanolfan Arddangos a Chynadleddau Brwsel ym mhrifddinas Gwlad Belg am ddigwyddiad masnach bwyd môr pwysicaf y byd.
Bydd y pum cwmni yn dangos eu cynnyrch sy'n cynnwys draenogiaid môr; cregyn bylchog; cimychiaid; cocos; cregyn gleision; crancod a bara lawr. Bydd chef ar y stondin i baratoi amrywiaeth o seigiau pysgod i ymwelwyr eu blasu.
Mae enw da Cymru fel cartref bwyd môr o ansawdd uchel yn tyfu ac mae'r dyfroedd o amgylch Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o bysgod yn cynnwys draenogiaid môr; cathod môr; lledod; lledod Mair; lledod chwithig; lledod fannog; celogiaid; pengernod a thorbytiaid a physgod cregyn yn cynnwys gwichiaid moch; cregyn bylchog; crancod brown; crancod corryn; cimychiaid a chorgiymchiaid.
Cafodd cregyn gleision eu casglu o ddyfroedd Cymru am dros 50 mlynedd ac mae cynhyrchu cregyn gleision yn ffurfio rhwng 40 a 50 y cant o gyfanswm trosiant gros pysgodfeydd Cymru.
Mae marchnad bwyd môr y Deyrnas Unedig yn werth tua £2.7 biliwn ac mae gwariant ar bysgod a physgod cregyn yn tyfu'n gyflymach nag ar fwydydd eraill, gan fod yn bron chwech y cant o wariant ar fwyd.
Yn 2005, amcangyfrifwyd fod y fasnach pysgod cregyn ei hunan yn werth £12m yng Nghymru. Allforir tua 80 y cant o fwyd môr Cymru i'r cyfandir lle mae galw mawr am gynnyrch o Gymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu pysgodfeydd Cymru ac mae ganddi ymrwymiad i ddiogelu, cefnogi ac annog y diwydiant.











