Mae’r gwaith yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i foroedd glan, diogel a bioamrywiol, ac yn nodi deg safle potensial o fewn dyfroedd Cymru i’w hystyried fel Parthau Cadwraeth Morol gwarchodedig iawn.
Yn dilyn proses ymgynghori drylwyr a graddol, mae disgwyl i dri neu bedwar safle gael eu dewis o’r opsiynau safleoedd.
Wrth siarad am y cynigion fe ddywedodd Gweinidog yr Amgylchedd:
“Mae gan Lywodraeth Cymru nawr bwerau uwch i amddiffyn amgylchedd morol pwysicaf Cymru.
“Ein bwriad yw defnyddio’r pwerau newydd yma i gryfhau ac atodi ein safleoedd morol cyfredol sydd wedi eu hamddiffyn yng Nghymru gyda’r Parthau Cadwraeth Morol newydd.
“Bydd hyn yn golygu y bydd nifer fechan o safleoedd yn derbyn statws gwarchodedig iawn fel y gallwn alluogi’r safleoedd hynny i weithredu mor naturiol â phosibl.
“Y syniad yw y bydd y dull hwn yn gwneud y mwyaf o’r cyfraniad mae’r ardaloedd yn eu gwneud i adfer ac atgyfnerthu’r ecosystem gan ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r modd mae ecosystemau yn gweithredu’n naturiol.
“Bwriad yr ymgynghoriad yw sicrhau ein bod yn dewis y safleoedd gorau ar gyfer statws gwarchodedig iawn. Rydym am gasglu cymaint o farn a gwybodaeth â phosib fel y gallwn wneud y penderfyniadau gorau i Gymru a’i amgylchedd morol."
Mae’r broses sydd wedi ei defnyddio i nodi’r safleoedd potensial yn newydd ac yn canolbwyntio ar sut mae’r safle cyfan yn cyfrannu i’r amgylchedd morol ac adferiad yr ecosystem.
Dyma’r cyntaf o dri chymal ymgynghori i benderfynu pa rai o’r safleoedd ddylai gael eu dynodi. Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd rhwng 19 Ebrill a 31 Gorffennaf.











