Roedd y Gweinidog yn ymateb i’r ffaith bod Ystad y Goron wedi cytuno i roi prydles i brosiect ynni’r llanw wrth ar Benmaen Dewi yn Sir Benfro.
Bydd y cytundeb yn galluogi Tidal Energy Ltd a’i is-gwmni, Eco2 Ltd i fynd ati i ddechrau datblygu eu prosiect ynni’r llanw gan gynnwys paratoi’r ceisiadau angenrheidiol ar gyfer y caniatadau morol.
Os bydd Tidal Energy Ltd yn llwyddo i gael y cytundebau angenrheidiol, yna dylai’r cwmni gael prydles lawn fydd yn ei alluogi i adeiladu ac i redeg cynllun ynni’r llanw.
Wrth gyfeirio at gyhoeddiad Ystad y Goron, dywedodd y Gweinidog:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n gryf i gael at yr ynni sydd yn ein moroedd. Mae gennym arbenigedd sylweddol ar draws llywodraeth, diwydiant a’r maes academaidd ac rydym yn cyfuno’r arbenigeddau hyn er mwyn canolbwyntio ar gyflenwi ynni morol.
“Mae’r dyfroedd egnïol oddi ar arfordir Cymru yn berffaith ar gyfer y cam hwn dechnoleg sydd gennym ar hyn o bryd a bydd yn chwarae rhan hanfodol yn datblygu’r diwydiant.
“Rydym ni o’r farn bod gan Gymru’r potensial i fod yn arweinydd byd yn y sector ynni morol fel cynhyrchydd arwyddocaol a hefyd fel allforiwr gwybodaeth, technolegau a gwasanaethau yn y sector.“Mae’r cyhoeddiad hwn gan Ystad y Goron yn gam cadarnhaol ymlaen a bydd yn ein helpu i wireddu’n breuddwyd. Mae’n newyddion gwych i Tidal Energy Ltd ac mae’n newyddion rhagorol i ynni morol Cymru ac economi ehangach Cymru.”
Dywedodd Martin Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr Tidal Energy:
“Rydym yn hapus iawn ein bod wedi llwyddo i gael Cytundeb Prydlesu ar gyfer Penmaen Dewi. Mae hwn yn gam pwysig i ni a chyda’r prosiect sydd gennym eisoes yn Swnt Dewi gerllaw, rydym yn gobeithio gallu dangos y posibiliadau gwirioneddol sydd gan ynni morol adnewyddadwy yng Nghymru.”











