Mae Mr Hughes yn ffermwr gwartheg eidion a defaid o Ynys Môn. Roedd yn llywydd NFU Cymru rhwng 2001 a 2006 ac ef yw Cadeirydd Bwrdd Dileu TB Rhanbarth y Gogledd.
Dywedodd y Gweinidog:
"Rwy’n falch o gyhoeddi bod Mr Hughes wedi’i benodi. Mae ganddo yrfa ffermio hir a chlodwiw a bydd yn cynnig cyfoeth o brofiad i’w rôl.
"Rwy’n gwerthfawrogi rôl y Gr ŵp Llywio fel fforwm allweddol sy’n canolbwyntio ar godi safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Cadeirydd a’r grŵp yn y dyfodol.”
Sefydlwyd y Grŵp Llywio ym mis Hydref 2004 i gynghori a chynorthwyo Llywodraeth Cymru ar ystod o faterion allweddol sy’n effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid. Mae 17 aelod yn y grŵp sy’n cynrychioli’r diwydiant yng Nghymru; mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru hefyd yn aelod o’r grŵp.











