Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dirprwy Weinidog yn cynrychioli Cymru ym Mrwsel

Bydd Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, Alun Davies ym Mrwsel heddiw, yn cymryd rhan yn nhrafodaethau’r Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd.
Dydd Sul 13 Mai 2012

Bydd y Dirprwy Weinidog yn dychwelyd i'r Cyngor, gan fonitro datblygiadau'r trafodaethau ar ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, a chyflwyno barn gref ac anghenion amaeth Cymru.

Mae'n teithio i Frwsel fel rhan o Dîm Gweinidogol y DU, gyda Gweinidogion o Lywodraeth y DU a'r Llywodraethau Datganoledig eraill. Bydd Mr Davies a'i swyddogion cyfatebol yn trafod materion yn ymwneud â diwygio'r PAC, yn arbennig, mater y taliad gwyrdd.

Gan siarad cyn y cyfarfod, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Mae'r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn chwarae rhan hanfodol yn y diwydiant ffermio yng Nghymru. Felly rwy'n gwbl barod i fod yn gadarn dros anghenion Cymru yn ystod y broses o ddiwygio er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y canlyniadau gorau i'n gwlad.

"Bydd y trafodaethau ar ddiwygio'r PAC yn si?r o fod yn broses hir, ar sawl lefel, o fewn Cymru ac yn y DU, a hefyd ledled Ewrop. Byddaf yn cadw'r drafodaeth yn fyw, yng Nghymru ac yn y Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ym Mrwsel a Luxembourg.

"Rwy' wedi fy nghalonogi wrth glywed y Comisiynydd Ewropeaidd yn cyfeirio'n gyhoeddus at anghenion ffermwyr Cymru, ac rwy'n falch iawn o weld bod fy nghyfraniad i'r cyfarfodydd hyn yn amlwg yn talu'r ffordd.  Byddaf yn parhau i chwarae rhan weithgar yn y broses o sicrhau bod Cymru'n cael y fargen orau bosibl yn y pen draw."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Polisi Amaethyddol Cyffredin

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 13 Mai 2012 Diwygio'r PAC Programme for Government - Rural Communities Ffermio a chefn gwlad Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw   Mai >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i