Bydd cynllun grant gwerth £500,000 yn cael ei lansio hefyd. Bydd awdurdodau lleol ar draws Cymru’n gallu bidio am gyfran o’r arian i brosiectau a fydd yn lleihau llygredd aer a sŵn ac yn datblygu mannau gwyrdd tawel.
Bydd y Gweinidog yn annerch cynulleidfa o fwy na 200 o gynrychiolwyr cyrff cyhoeddus yn y gynhadledd Mae’r Amgylchedd yn Cyfri’? yn stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd.
Bydd nifer o ardaloedd trefol ledled Cymru’n cymryd rhan yng nghyfnod prawf y rhaglen, gan gynnwys Wrecsam, Caergybi, Abertawe a Chaerdydd.
Meddai’r Gweinidog:
“Yn y cyfnod economaidd anodd sydd ohoni, gall llywodraethau ac awdurdodau gael eu temtio i ganolbwyntio ar flaenoriaethau economaidd ac anghofio am ymrwymiadau amgylcheddol neu gymdeithasol.
“Ond yng Nghymru, ein cred ni yw bod cysylltiad annatod rhwng ein lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Chewch chi ddim aberthu un heb effeithio ar y tri. Mae ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn cydnabod hynny."
Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi ei fod yn dod â rhaglenni ynghyd i roi cynnig integredig i gymunedau a chefnogi gwelliannau lleol ehangach a dyfnach. Bydd hyn yn esgor ar amrywiaeth o fuddiannau fel datblygu sgiliau, swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli ac ymdeimlad cryfach o berthyn i gymuned.
Bydd swyddogion datblygu a noddir gan y Llywodraeth yn cwrdd â grwpiau cymunedol lleol i drafod sut y carent weld eu cymdogaethau’n cael eu gwella ac yna i weithio gyda’i gilydd i weld pa arbenigedd a chymorth sydd eu hangen i wneud y gwelliannau hynny. Trwy weithio fel ‘siop-un-stop’, darperir gwasanaeth mwy cydlynol a syml. Bydd yr arbedion a grëir yn sgil hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhagor o gymunedau.
Aeth y Gweinidog yn y flaen:
“Rwy’n ofidus mai yn ein cymunedau tlotaf, yn enwedig y rheini mewn ardaloedd trefol, y mae’r amgylchedd gwaethaf, gyda thipio anghyfreithlon, sbwriel, ffyrdd peryglus, lefelau uchel o lygredd a diffyg mannau gwyrdd.
“Byddaf yn gofyn i asiantaethau sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth, i weithio gyda’i gilydd i wireddu’r amcan uchelgeisiol hwn.”











