Roedd Alun Davies, sydd wedi sicrhau cynrychiolaeth gref i fuddiannau ffermwyr Cymru ar y Cyngor Amaeth, yn fawr ei groeso i'r cynigion newydd. Drwyddynt, bydd ffermwyr sy'n cymryd rhan yn Elfen Cymru Gyfan Glastir yn cael derbyn yn awtomatig yr elfen werdd o 30% o'r taliad uniongyrchol.
Gan siarad ym Mrwsel lle roedd wedi bod yng nghyfarfod y Cyngor fel aelod o ddirprwyaeth Gweinidogion y DU, dywedodd Mr Davies bod cynlluniau newydd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y taliad gwyrdd yn gam mawr i'r cyfeiriad cywir.
Meddai'r Dirprwy Weinidog:
"Rwy'n falch iawn bod cyfarfod heddiw'n dangos bod y trafodaethau'n mynd rhagddynt er lles y diwydiant yng Nghymru.
"Rwyf wedi bod yn negodi'n hir ac yn galed y dylai ffermwyr Glastir gael eu heithrio o'r cynigion gwyrdd o dan golofn 1, ac mae'n glir iawn bellach bod y gwaith yn talu ffordd. Rwy'n ddiolchgar hefyd i swyddogion Llywodraeth Cymru a'r swyddfa ym Mrwsel sydd wedi gweithio mor galed dros hyn.
"Dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd dros Amaeth, Dacian Cialos, y dylai'r rheini sy'n hyrwyddo mesurau gwyrdd o dan gynlluniau amaeth-amgylcheddol gael eu gwobrwyo, ac rwy'n cytuno'n gryf â'r farn honno."
Cyflwynodd Mr Ciolos 'bapur cysyniad' i Aelod-wladwriaethau gan ddangos newid meddwl fydd yn dod â budd i rannau o Brydain.
Meddai Mr Davies:
"Bydd cytuno ar ddiwygiadau i'r PAC yn broses hir a phwysig - mae llawer o ffordd i fynd eto ond rwy' am fanteisio ar bob cyfle i fod yn rhan o'r broses ar bob lefel.
"Mae cynrychioli anghenion ffermwyr Cymru yn Ewrop yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a byddaf yn cadw at yr addewid hwnnw."











