Fe lansiodd y Gweinidog ymgynghoriad sy’n ystyried a ddylid gosod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru. O dan y cynllun fe fyddai gwybodaeth yn y microsglodyn, gan gynnwys manylion perchennog y ci, yn cael ei chofnodi ar gronfa ddata gymeradwy.
Yn ôl amcangyfrif Llywodraeth Cymru mae yna bron i hanner miliwn o gŵn yng Nghymru gyda 30% o gartrefi Cymru yn berchen ar un ci o leiaf.
Bwriad y cynllun yw annog holl berchnogion cŵn Cymru i gymryd cyfrifoldeb dros eu hanifeiliaid ac mae’n rhan o’r ymdrech ehangach i wella lles anifeiliaid.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd:
“Does dim dwywaith bod Cymru’n genedl o bobl sy’n caru cŵn, gyda thri o bob deg cartref yng Nghymru yn berchen ar un ci o leiaf.
“Rydym yn gwybod bod mwyafrif y perchnogion cŵn yng Nghymru yn gyfrifol ac yn gofalu’n dda am eu hanifeiliaid. Fel Llywodraeth rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn er mwyn sicrhau safonau lles uchel i bob ci.
“Mae gosod microsglodyn yn sicrhau nod parhaol ar anifeiliaid a dim ond unwaith y mae angen ei wneud. Mae’n ei gwneud yn haws i berchnogion ddod o hyd i gŵn sydd ar goll, mae’n fodd o helpu atal dwyn cŵn ac yn help i gadarnhau perchnogaeth ci pe bai unrhyw broblem gyda’r anifail.
“Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu pum opsiwn ar y ffyrdd o gynyddu lefelau gosod microsglodyn ac rwy’n croesawu barn pawb sydd â diddordeb.”
Drwy ei gwneud yn orfodol i bobl osod microsglodion ar gŵn, fe allai hynny:
- Wella lles anifeiliaid drwy ei gwneud yn haws dychwelyd ci strae at ei berchennog
- Gwneud perchnogion yn fwy cyfrifol drwy ei gwneud yn haws eu holrhain
- Helpu i benderfynu pwy sy'n gyfrifol a phrofi pwy yw'r perchennog
- Helpu wrth gymryd camau rheoli yn erbyn clefydau a allai gael eu trosglwyddo i bobl
- Bod yn gyfrwng i atal dwyn cŵn
Mae gwasanaethau gosod microsglodion ar gŵn ar gael ledled Cymru. Mae’r Ymddiriedolaeth Cŵn ar hyn o bryd yn cynnig gosod microsglodion am £10 y ci.
Dim ond un agwedd ar y gwaith i gynyddu lles cŵn yw’r cynlluniau i gyflwyno microsglodion. Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar reoliadau i reoli magu cŵn ac i wella safonau byw cŵn. Mae hefyd yn ystyried dwyn ymlaen ddeddfwriaeth sylfaenol fyddai’n helpu i reoli cŵn anystywallt a pheryglus.
Bydd yr ymgynghoriad ar osod microsglodion yn digwydd rhwng 16 Mai 2012 a 8 Awst 2012.











