Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dynodi 29 man tawel trefol yn y De

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, wedi dyfarnu statws ‘man tawel’ i 29 o leoliadau trefol ar draws De Cymru. Unwaith y bydd man tawel wedi’i ddynodi, caiff ei amddiffyn rhag unrhyw gynnydd mewn sŵn, drwy’r Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol a’r polisi cynllunio.
Dydd Mercher 23 Mai 2012

Yn gynharach eleni, gwahoddwyd pedwar awdurdod lleol, sef Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Bro Morgannwg a Chaerdydd, i gyflwyno rhestrau o’u mannau tawel dewisol. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, penderfynwyd rhoi statws ‘man tawel’ swyddogol i leoliadau cyhoeddus a pharciau mawr fel Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, Parc Cwmdonkin Abertawe ac adfeilion Abaty Glyn-nedd.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths:

“Mae’n bleser mawr gen i roi’r statws hwn i bob un o’r mannau a gynigiwyd gan yr awdurdodau lleol. Yn gynharach yn y mis, siaradais am fy ngweledigaeth i ar gyfer gwella ardaloedd trefol Cymru ac mae’n hollbwysig darparu llecynnau gwyrdd tawel er mwyn gwireddu hynny. Mae’n bwysig bod pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd trefol prysur yn cael hamddena, gorffwys ac ymlacio mewn mannau heddychlon gyda ffrindiau a theulu.

“Mae llawer o’r mannau y buom yn ymgynghori arnynt yn gartref i adar a bywyd gwyllt arall. Mae Llywodraeth Cymru’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y mannau hyn i’w cymdogaethau ac rydyn wedi ymrwymo i’w diogelu ar gyfer y dyfodol.”

Y mannau hyn yw’r rhai cyntaf i gael eu dynodi mewn ardaloedd trefol mawr o dan y Gyfarwyddeb Sŵn Amgylcheddol (2002/49/EC). Mae’r Gyfarwyddeb yn gosod gofyniad ar Lywodraeth Cymru i ddynodi mannau tawel yn eu cynlluniau gweithredu ar sŵn ac mae rhoi Cyfarwyddebau Ewropeaidd ar waith yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.

Bro Morgannwg

  • Belle Vue Park
  • Penarth Head Lane
  • Victoria Playing Fields
  • Golden Gates
  • Alexandra Park

Caerdydd

  • Heath Park
  • Thompson’s Park
  • Parc Caedelyn
  • Roath Park (wild gardens, lake and botanical gardens)
  • Roath Park Pleasure Gardens
  • Roath Park Recreation Ground

Abertawe

  • Cwmdonkin Park
  • Dunvant Park
  • Fendrod Lake
  • Parc Llewellyn
  • Morriston Park
  • Oystermouth Cemetery
  • Ravenhill Park
  • Underhill Park

Cyngor Casell-nedd Port Talbot

  • Talbot Memorial Park
  • Vivian Park
  • Neath Abbey Ruins
  • Mount Pleasant Park, Melin
  • Skewen Park
  • Shelone Woods
  • Baglan Park
  • Victoria Gardens
  • Church Place
  • King George V Park, Pontardawe

Cynhelir ail rownd y broses mapio sŵn yn ddiweddarach eleni, ac wedi hynny bydd ymgynghoriad ar ail gyfran o fannau tawel, gan gynnwys ardal Casnewydd y tro hwn.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Swn amgylcheddol

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 23 Mai 2012 Yr Amgylchedd Programme for Government - Sustainability Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i