I nodi'r digwyddiad sy'n cael ei gynnal rhwng Mehefin 2 a 9 eleni, ymwelodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies â gwinllan Ancre Hill, Trefynwy.
Yn dilyn lansiad Cynllun Gweithredu Diwydiant Diodydd Cymru, mae Alun Davies yn parhau i weithio tuag at sicrhau diwydiant diodydd mwy cynaliadwy, proffidiol a phroffil uchel, ac yn hyrwyddo safon gwin cartref.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"O ran safon a photensial, mae gwin Cymru'n sicr yn dod yn fwy amlwg yng Nghymru a thu hwnt. Ond rwy'n gwybod bod potensial mawr i'r sector dyfu eto ac rwy'n gwbl ymroddedig o hyd i gryfhau'r diwydiant a gwneud y gorau o'i bwysigrwydd economaidd i Gymru."
Aeth Alun Davies i gwrdd â Richard Morris, perchennog gwinllan sydd wedi ennill amryw o wobrau rhyngwladol, er mwyn gweld â'i lygaid ei hun pa sialensiau sy'n wynebu'r diwydiant, a'r cyfleoedd sydd ar gael.
Mae Mr Morris, sydd eisoes wedi dangos ei gefnogaeth i'r cynllun gweithredu a datblygiad diwydiant gwin Cymru, yn gyfrifol am winllan fwyaf y wlad sy'n cynhyrchu 25% o win Cymru. Ffurfiwyd y busnes yn 2005 ac mae gwinllan Ancre Hill Estates yn un o ddwy winllan biodynamig y DU, allan o'r tua 200 yn unig sy'n bodoli ledled y byd.
Yn ogystal ag Ancre Hill, mae nifer o winllannoedd Cymru'n agor i'r cyhoedd ac yn cynnal digwyddiadau arbennig. Ymysg y rhai sy'n cyfranogi mae: Fferm Parva, Gwinllan Penarth a Wernddu Organics. Dylid cysylltu â'r gwinllannoedd eu hunain i gael y wybodaeth ddiweddaraf.











