Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed barn ar Barthau Cadwraeth Morol arfaethedig

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfodydd er mwyn casglu barn ac adborth ar ei chynigion i greu ardaloedd newydd gwarchodedig iawn o fewn moroedd Cymru.
Dydd Gwener 01 Mehefin 2012

Lansiodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, ymgynghoriad ym mis Ebrill wnaeth amlinellu 10 safle posib ar gyfer Parthau Cadwraeth Morol g warchodedig iawn .

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig dewis uchafswm o dri neu bedwar safle o’r deg y gallant eu gadael i weithredu mor naturiol â phosib. Bwriad hyn yw hybu adferiad yr ecosystem ym moroedd Cymru a dysgu mwy am y modd mae ecosystemau morol yn gweithio.

Mae’r Llywodraeth yn awyddus i bwysleisio nad yw ond yn dechrau ar y broses hon a’i bod am ddysgu tipyn mwy am y safleoedd ac effeithiau dynodi’r parthau ar y cymunedau lleol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau .

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths:

"Cymal cyntaf y broses ymgynghori yw darganfod cymaint o wybodaeth ag y gallwn am y safleoedd posib. Dyna pam ein bod yn awyddus i geisio barn y cyhoedd a phob grŵp sydd â diddordeb, yn enwedig pysgotwyr, grwpiau amgylcheddol a gweithredwyr hamdden a thwristiaeth .

"Byddwn yn cynnal nifer o gyfarfodydd gyda grwpiau a sefydliadau dros gyfnod yr ymgynghoriad er mwyn trafod yn uniongyrchol â nhw. Rwy’n gwybod bod gan rai grwpiau pysgota bryderon penodol ac fel Llywodraeth rydym yn awyddus iawn i glywed eu barn."

Bydd yr ymgynghoriad yn parhau hyd 31 Gorffennaf 2012. 
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Parthau Cadwraeth Morol – Opsiynau Safleoedd Posibl ar gyfer Dyfroedd Cymru

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 01 Mehefin 2012 Yr Amgylchedd Programme for Government - Sustainability Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i