Wrth i amaethwyr Cymru wynebu cyfnod o newidiadau, mae’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth wedi cyhoeddi £1.7 miliwn o gymorth i ffermwyr o dan 40.
Yn nhrydedd flwyddyn y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (YESS), roedd llawer iawn yn dangos diddordeb a bu cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau o ansawdd uchel.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ammaeth, Alun Davies:
“Mae’r gefnogaeth barhaus i’r cynllun yn dangos pa mor benderfynol yw’r Llywodraeth hon o gefnogi entrepreneuriaeth pobl ifanc a rhoi arweiniad cryf i’n ffermwyr ni mewn cyfnod o newid.
“Mae YESS yn elfen sylfaenol o bolisi amaethyddol Llywodraeth Cymru ac mae’n gwneud cyfraniad pwysig at ein nod cyffredinol ni o amddiffyn buddiannau ffermwyr Cymru a helpu i sicrhau dyfodol ffyniannus i amaethyddiaeth yn ein gwlad.”
Mae YESS yn cynnig cefnogaeth i newydd-ddyfodiaid o dan 40 oed sy’n dechrau ffermio fel pennaeth busnes ffermio am y tro cyntaf, neu sydd wedi dod yn bennaeth yn y flwyddyn flaenorol.
Mae’r pecyn cymorth a gynigir gan y cynllun yn cynnwys:
- grant i dalu costau cyfalaf a wynebir gan newydd-ddyfodiaid sy’n dod yn bennaeth busnes ffermio am y tro cyntaf;
- mynediad at Wasanaeth Galluogi i Newydd-ddyfodiaid a fydd yn rhoi cyngor ar hyfforddiant, trosglwyddo gwybodaeth a chyfleoedd cyd-fentro; a
- mynediad at wasanaethau mentora gan ffermwyr profiadol.











