Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwersyllwyr yn cael eu gwahodd i ddarganfod eu llain berffaith ar yr Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg yn croesawu chwech Gwersyllfan arfordirol newydd

Mae pump meddiannwr tir ym Mro Morgannwg yn paratoi i groesawu dros 4,000 o wersyllwyr i’w gwersyllfannau arbrofol newydd yr haf yma, yn dilyn eu lansiad swyddogol.
Dydd Gwener 15 Mehefin 2012
Gwersyllwyr yn cael eu gwahodd i ddarganfod eu llain berffaith ar yr Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg yn croesawu chwech Gwersyllfan arfordirol newydd
Gwersyllwyr yn cael eu gwahodd i ddarganfod eu llain berffaith ar yr Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg yn croesawu chwech Gwersyllfan arfordirol newydd

Wedi eu hariannu gan Creative Rural Communities, menter adfywio gwledig Bro Morgannwg, mae’r chwe gwersyllfan newydd a elwir yn The Perfect Pitch: Coastal Camping, yn rhan o arbrawf i helpu perchnogion tir lleol i arallgyfeirio’u busnes ac ar yr un pryd, gwrdd â’r galw am lefydd i wersylla yn yr ardal.

Mae gan y chwe safle gwersylla newydd dros dro eu rhagoriaethau eu hunain sy’n cynnwys dewis eich mannau picnic eich hun, agosatrwydd at y Llwybr Arfordirol newydd Cymru a mannau agored ar gyfer hwyl a gemau teuluol.

Yn dilyn ei gynllun Balchder yn ein Teuluoedd Amaethyddol, oedd yn amcanu i annog arallgyfeirio ar ffermydd, darganfu Creative Rural Communities bod nifer o ffermwyr â diddordeb mewn agor safleoedd gwersylla yn yr ardal.

Lansiodd Creative Rural Communities ei gynllun peilot Gwersylla Arfordirol fel rhan o’r prosiect Balchder yn y Fro ar ddiwedd 2011, gan gynnig help gyda chynllunio, trwyddedu a gofynion ymarferol sydd eu hangen i sefydlu gwersyllfannau arbrofol.

O ganlyniad i hyn, nodwyd chwech o leoliadau addas i ddatblygu safleoedd gwersylla dros dro sydd â’r posibilrwydd tymor hir o gael caniatâd cynllunio llawn os bydd yr arbrawf yn llwyddiant.

Dywedodd Glyn George, sy’n gydberchennog Safle Gwersylla’r Arfordir Treftadaeth gyda’i gwraig, Philippa:

"Yn y cyfnod anodd hwn mae’r Perfect Pitch yn mynd i gael effaith gadarnhaol ar gymunedau gwledig sy’n ei chael yn anodd, yn creu cyfleon gwaith ac yn denu gwariant gan ymwelwyr yn yr ardal.

"Gyda gwyliau gartref yn mynd i fod hyd yn oed mwy poblogaidd eleni, mae’r gefnogaeth oddi wrth Creative Rural Communities wedi’n helpu’n fawr i roi cychwyn arni i sefydlu safle gwersylla ar gyfer teuluoedd a chyplau yn Yr As Fawr. O drwyddedu, cynllunio a iechyd a diogelwch i farchnata a graddio, rydyn ni hefyd wedi derbyn cyngor arbenigol oddi wrth y fenter felly rydyn barod i roi cychwyn arni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu’n gwersyllwyr cyntaf yr haf hwn!"

Lansiodd Alun Davies, Y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, y safleoedd gwersylla newydd yn swyddogol heddiw a dywedodd:

"Mae’n wych gweld sut mae’r prosiect hwn yn defnyddio ariannu Cynllun Datblygu Gwledig y Llywodraeth yn greadigol i ddarparu incwm amgen ar gyfer busnesau fferm a thirfeddianwyr, yn ogystal â darparu buddiannau ar gyfer y gymuned wledig ehangach.

"Rydw i’n dymuno pob llwyddiant i’r arbrawf, gan obeithio y bydd yn enghraifft dda i eraill, er mwyn iddyn nhw fedru gweld sut mae cymryd mantais o gyfleon sydd ar gael iddyn nhw."

Mae’r Prosiect Gwersylla Arfordirol wedi derbyn ariannu trwy Gyngor Bro Morgannwg a Chynllun Datblygu Gwledig ar gyfer Cymru 2007-2013 a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig Creadigol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cynllun datblygu gwledig Cymru

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 15 Mehefin 2012 Ffermio a chefn gwlad Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i