Bydd y Dirprwy Weinidog yn ymuno â’r sgwrs ar drafodaethau’r PAC hyd yma, gan dynnu sylw at feysydd lle mae cytundeb ac at destunau sy’n parhau i arwain at wahaniaeth barn.
Bydd pryderon allweddol yn cael eu codi, a bydd trafodaethau dwys ar elfennau datblygu gwledig y pecyn diwygio PAC, sef yr unig destun sylweddol sydd heb ei drafod gan y Cyngor hyd yma.
Gan fynychu Cyngor Amaethyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd yn Luxembourg fel rhan o dîm Gweinidogol y DU bydd y Dirprwy Weinidog yn cynrychioli buddiannau ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru mewn ffordd gadarn .
Gan siarad cyn y cyfarfod dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Yn raddol rydyn ni’n symud drwy’r trafodaethau PAC, ac rwy’n falch o weld ein bod ni’n symud ymlaen. Yn amlwg mae rhai meysydd y bydd Gweinidogion yn parhau i’w hystyried, ond rwy’n benderfynol o roi arweiniad cadarn mewn cyfnod o newid yng Nghymru, ac yn parhau i fod yn hyderus ac wedi ymroi’n llwyr i sicrhau’r fargen orau bosib i ddiwydiant ffermio Cymru ym mhob maes sy’n cael ei ddiwygio.
"Bydd y broses yn parhau ac fe fyddaf yn ymuno â thrafodaethau yn gyson o fewn Cymru, y DU ac Ewrop, i wneud yn siŵr bod llais Cymru’n cael ei glywed yn gwbl glir."











