Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Agoriad swyddogol cynllun llifogydd newydd Casnewydd

Mae cynllun newydd a fydd yn helpu i amddiffyn cannoedd o gartrefi a busnesau yng Nghasnewydd rhag difrod llifogydd wedi cael ei agor yn swyddogol gan y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths.
Dydd Gwener 29 Mehefin 2012

Adeiladwyd Cynllun Atal Llifogydd Glan yr Afon, gwerth £7m, diolch i £4.4m o gyllid gan Lywodraeth Cymru a £2.6m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.  Bydd yn amddiffyn 420 o gartrefi a busnesau yn ardal Glan yr Afon yng Nghasnewydd rhag llifogydd.

Datblygwyd y cynllun newydd, dan reolaeth Asiantaeth yr Amgylchedd, ar ôl gweld arwyddion o wendid yn amddiffynfeydd llifogydd blaenorol Glan yr Afon.  Yn ôl y cynlluniau modelu, pe bai un o’r waliau a oedd mewn cyflwr arbennig o wael wedi methu, byddai 50% o gyfle i’r ardal ddioddef llifogydd yn flynyddol.

Cyn yr agoriad, dywedodd y Gweinidog:

"Rwy’n falch iawn o agor y cynllun hwn, a fydd yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd ac yn rhoi tawelwch meddwl i’r 420 o gartrefi a busnesau yn ardal Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

"Mae’n arbennig o arwyddocaol ein bod yn agor y cynllun heddiw gan ystyried y digwyddiadau diweddar yng ngorllewin Cymru.  Cafodd pob un ohonom ein hatgoffa mor ddifrifol yw effaith llifogydd.

"Mae un o bob chwe eiddo yng Nghymru mewn perygl o ddioddef llifogydd.  Er nad oes modd i ni atal llifogydd yn llwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau Cymru yn wyneb y broblem hon.

"Mae cynllun Glan yr Afon yn rhan o raglen waith gwerth £100 miliwn gyda chefnogaeth bron i £50 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.  Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i helpu i amddiffyn cymunedau, fel yr un yma yng Nghasnewydd, a chymryd camau i reoli’r peryglon sy’n eu hwynebu."

Dywedodd Gareth O’Shea o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru:

"Hoffwn i ddiolch i’r bobl leol am eu cefnogaeth dros y deuddeg mis diwethaf wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen – mewn rhai achosion yn agos iawn at eu cartrefi a’u gerddi.

"Mae hwn yn gynllun pwysig i bobl sy’n byw dan fygythiad llifogydd yng Nglan yr Afon, a dyma’r ddolen olaf i amddiffyn glan ddwyreiniol Casnewydd rhag yr Afon Wysg.

"Does dim modd i ni atal llifogydd rhag digwydd bob tro, ond gallwn leihau’r risg.  Bydd y cynllun hwn yn sicr yn lleihau’r risg i drigolion Casnewydd."

Yn gynharach eleni lansiodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Genedlaethol Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o lifogydd, lleihau’r canlyniadau, gwella lefelau ymateb a blaenoriaethu buddsoddiad.

Cynlluniwyd amddiffynfa llifogydd Glan yr Afon i fod yn gadarn am flynyddoedd.  Gellir codi’r waliau llifogydd yn uwch os oes angen, ac fe ddylai fedru gwrthsefyll peryglon newid hinsawdd am y 100 mlynedd nesaf.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Dŵr Llifogydd ac erydu arfordirol

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 29 Mehefin 2012 Amddiffyn rhag llifogydd Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i