Dywedodd y Gweinidog:
“Mae Llywodraeth Cymru’n rhannu gweledigaeth y Resource Association. Rydyn ni hefyd am weld economi deunyddiau sy’n defnyddio adnoddau’n effeithiol ac yn cydnabod ansawdd a gwerth y deunyddiau eilaidd hynny sy’n cael eu trin fel gwastraff yn llawer rhy aml.
“Mae gweledigaeth a datganiad cenhadaeth y gymdeithas yn flaengar iawn, ac yn agos iawn at nodau ac amcanion strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff.”
Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas, Ray Georgeson:
“Rwy’n falch iawn i John Griffiths ymuno â ni i lansio’r Resource Association yng Nghymru, yn arbennig wrth ochr lansiad Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd Cymru. Mae’r Cynllun hwn yn anfon neges bwysig i’r diwydiant gwastraff ac ailgylchu, ac i gynghorau a busnesau ehangach, ynghylch bwriad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i anelu at Ddyfodol Diwastraff. Rydyn ni a llawer o rai eraill yn y diwydiannau ailgylchu ac ailbrosesu yn rhoi croeso cynnes iddo.”
Wrth siarad yn y digwyddiad, amlinellodd y Gweinidog wybodaeth am Gynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd Llywodraeth Cymru sy’n cael ei gyhoeddi. Mae’n nodi’r ffordd orau i economi Cymru ddarparu deunyddiau eildro cynaliadwy, o safon uchel ar gyfer ailbroseswyr lleol a gwneuthurwr nwyddau o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
Mae’r Cynllun Sector yn cwmpasu’r gwaith o gasglu a rheoli’r holl ddeunydd gwastraff yng Nghymru. Mae wedi’i anelu at y rhai sy’n casglu a rheoli gwastraff ac ailgylchu, ac yn nodi sut gall ailbroseswyr, y diwydiant gwastraff, rheoleiddwyr, awdurdodau lleol, yr economi gymdeithasol a chyrff eraill chwarae eu rhan i gyflawni targedau ailgylchu Cymru’n llwyddiannus. Mae’r cynllun yn gwneud argymhellion ac yn cynnig cyngor i awdurdodau lleol ynghylch y systemau casglu mwyaf effeithiol a chynaliadwy ar gyfer ailgylchu.
Bydd y cynllun hwn hefyd yn arwain at welliannau sylweddol i amgylchedd Cymru drwy leihau’r defnydd o safleoedd tirlenwi. Y nod yn y pen draw yw edrych ar ffyrdd o reoli ailgylchu, heddiw ac yn y dyfodol, a throi gwastraff wedi’i ailgylchu yn adnodd gwerthfawr i Gymru.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae’r cynllun hwn yn gofyn i’r diwydiant gwastraff yng Nghymru droi i fod yn ddiwydiant rheoli adnoddau. Rwy’ am weld y diwydiant yn cael ei gydnabod yn fyd-eang am ei allu i gyflenwi gwasanaeth cynaliadwy sy’n cael ei barchu ledled y byd. Rwy’ am i Gymru ddenu mewnfuddsoddiad ac, ar yr un pryd, gadw gafael ar ei diwydiannau lleol yn sgil y gwasanaethau rheoli adnoddau cynaliadwy, o safon uchel a fydd ar gael.”











