Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dirprwy Weinidog yn ysgogi brwdfrydedd yn y diwydiant bwyd

Heddiw, agorodd Tywysog Cymru Uwchgynhadledd Fwyd Cymru yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Dydd Iau 12 Gorffennaf 2012
Dirprwy Weinidog yn ysgogi brwdfrydedd yn y diwydiant bwyd
Dirprwy Weinidog yn ysgogi brwdfrydedd yn y diwydiant bwyd

Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Bwyd a Physgodfeydd, Alun Davies, y digwyddiad ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddod â diwydiant bwyd Cymru ynghyd am gyfle i fynegi barn.

Bydd yr hyn a ddysgir yn ystod y diwrnod yn helpu Llywodraeth Cymru i bennu ei blaenoriaethau o ran ei chamau gweithredu a pha gymorth i’w roi i’r sector bwyd yng Nghymru.

Cafodd siaradwyr a grwpiau gyfle i drafod dyfodol y sector bwyd yng Nghymru gan archwilio amrywiaeth o heriau sy’n wynebu’r gadwyn gyflenwi ar hyn o bryd, gan gynnwys ystyried creu marchnad gryfach ac allforio cynnyrch i fwy o wledydd, sut i fanteisio orau ar y dwristiaeth fwyd ac arloesi yn y maes ac ystyried defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu economi sy’n ffynnu a swyddi cynaliadwy, ac mae gan y diwydiant bwyd yng Nghymru rôl allweddol wrth wireddu hyn.

"Rwy’n hyderus bod gan y diwydiant bwyd yng Nghymru ddyfodol hirdymor hyfyw ond rwy’ hefyd yn deall bod heriau i’w goresgyn. Nawr yw’r amser i fynd i’r afael â’n huchelgeisiau ac i baratoi cynllun gweithredu clir i’r sector.

"Rydyn ni i gyd yn falch iawn o’r bwyd rydyn ni’n ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae’n rhan annatod o’n diwylliant unigryw a’n treftadaeth ffrwythlon ac mae ein diwydiant ymhlith y rhai mwyaf effeithlon yn Ewrop. Dewch inni fod yn uchelgeisiol am ddyfodol ein diwydiant, dewch inni annog y Cymry i fwyta a mwynhau cynnyrch Cymreig ac annog eraill i gael blas arno hefyd."

Dywedodd Dr Rosie Plummer, cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol:

"Mae tyfu planhigion yn hanfodol i’r diwydiant bwyd. Mae gan yr Ardd Fotaneg Genedlaethol rôl allweddol wrth symbylu ac annog pobl i dyfu bwyd. Mae’r ardd yn falch iawn ei bod yn defnyddio ac yn gweini bwyd lleol a chynhelir digwyddiadau rheolaidd yma i arddangos cynnyrch lleol. Bydd ein rhaglen gyffrous newydd, Tyfu’r Dyfodol, yn meithrin sgiliau ar gyfer tyfu bwyd ledled Cymru gyfan."

Dywedodd y cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:

"Mae’r uwchgynhadledd hon yn ddigwyddiad cadarnhaol iawn i Sir Gaerfyrddin a’r Gorllewin sydd wedi magu enw da am gynhyrchu bwyd.

"Roedd yn bwysig rhoi cyfle i bobl sy’n cynhyrchu a phrosesu bwyd leisio’u barn a thrafod pa gymorth sydd ei angen ar y diwydiant sy’n rhan annatod o’r economi leol."

Datblygwyd yr uwchgynhadledd ar y cyd â Peter Davies, y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, a gadeiriodd y cyfarfod, a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Bwyd a physgodfeydd

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 12 Gorffennaf 2012 Yr economi Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i