Mae ymweliad y Gweinidog yn dilyn ei benderfyniad i gyflwyno rhaglen brechu moch daear o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Mae’r rhaglen frechu’n rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i ddileu TB gwartheg yng Nghymru.
Dyma’r tro cyntaf i brosiect uchelgeisiol o’r math hwn sy’n dal moch daear a’u brechu gael ei gynnal. Hyd yn hyn, mae’r rhaglen frechu wedi llwyddo i ddal a brechu mwy na 430 o foch daear.
Ymunodd y Gweinidog â thîm o weithwyr yn yr Ardal Triniaeth Ddwys er mwyn iddo weld o lygad y ffynnon pa mor effeithiol yw’r rhaglen frechu.
Gan siarad am ei ymweliad, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd:
“Roedd mynd allan gyda’r gweithwyr maes i weld y broses frechu drosof fy hun yn brofiad da. Mae arbenigedd y gweithwyr, a’r gofal roeddent yn ei gymryd i lynu wrth arferion bioddiogelwch wedi creu argraff dda iawn arnaf.
"Mae llwyddiant y rhaglen yn dibynnu’n rhannol ar y ffermwyr a’r perchnogion tir yn gadael i’r gweithwyr gael mynediad i gymaint o dir ag sy’n bosibl yn yr Ardal Triniaeth Ddwys a hoffwn ddiolch i’r ffermwyr a’r perchnogion tir am gydweithredu’n barhaus.
“Byddwn yn monitro canlyniadau’r rhaglen frechu, a pha mor effeithiol yw’r rhaglen i ddileu TB gwartheg yn gyffredinol, i sicrhau ein bod ni’n gwneud cynnydd da i gyflawni’n nod sef creu Cymru heb TB.”
Mae’r rhan fwyaf o’r Ardal Triniaeth Ddwys yng ngogledd Sir Benfro, ond mae hefyd yn cynnwys rhai ardaloedd bach yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. Mae’r Ardal Triniaeth Ddwys tua 288km² o faint.
Gweithwyr Llywodraeth Cymru sydd wedi cwblhau cwrs gan yr Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd ar ddal a brechu moch daear trwy roi pigiadau sy’n gyfrifol am weithredu’r rhaglen frechu.
Mae’r broses fel arfer yn cymryd rhwng 3 a 4 wythnos gan ddibynnu ar faint yr ardal dan sylw a nifer y moch daear sy’n cael eu dal. Y cam cyntaf yw ymweld â pherchnogion i ofyn am eu caniatâd i fynd ar y tir a chynnal arolwg i weld a oes moch daear yno. Yn ystod yr wythnos olaf, bydd y gweithwyr yn gosod trapiau i ddal moch daear a’u brechu.











