Mewn datganiad gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, disgrifiodd Alun Davies y gwelliannau sydd wedi’u gwneud. Mae’r gwelliannau hynny’n cynnwys gwella’r trefniadau cyfathrebu â’r diwydiant, datblygu gwasanaethau ar-lein a chynlluniau i gynnal y gynhadledd ffermio flynyddol gyntaf erioed.
Meddai’r Dirprwy Weinidog, Alun Davies:
"Rwy’n falch o gyhoeddi bod nifer o’r argymhellion wedi’u cyflawni eisoes tra bo’r gwaith ar lawer iawn o’r argymhellion eraill yn dod ymlaen yn dda iawn.
"Rwy’n ffyddiog bod yr argymhellion yn cael eu cyflawni’n foddhaol ac y byddwn yn cyrraedd y cerrig milltir.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth effeithiol a phriodol i gefn gwlad Cymru ac rwy’n arwain y gwaith o wneud yn siŵr bod y broses honno’n digwydd yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol bosibl."
"Rwy’n ehangu’r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm fel y mae Gareth Williams yn ei argymell. Rydym wrthi’n recriwtio rhagor o staff i’n helpu i gynnig y gwasanaeth mewn mwy o ardaloedd er mwyn i fwy o ffermwyr allu manteisio ar wybodaeth a chyngor o’r radd flaenaf.
"Tynnodd Gareth ein sylw at yr angen i gynnal yr holl archwiliadau fferm yn yr un ffordd. Yn y gwanwyn, cynhalion ni raglen i arweinwyr a gweithdy i fusnesau gyda phrif swyddogion o’r holl gyrff rheoleiddio ffermydd yn cymryd rhan. Roedd y gweithdai’n cynnwys ymweliadau â ffermydd a sesiwn trafod â ffermwyr, er mwyn i reoleiddwyr allu gweld eu rheoliadau trwy lygaid ffermwyr."
Y llynedd, gofynnodd y Dirprwy Weinidog i Gareth Williams baratoi adroddiad annibynnol yn dwyn y teitl "Hwyluso’r Drefn", i edrych ar fframwaith llywodraethu amaethyddiaeth Cymru. Gwnaed 74 o argymhellion yn yr adroddiad a derbyniwyd y mwyafrif o’r rheini yn llawn a lleiafrif ohonynt yn rhannol.
Cafodd yr adroddiad ‘Hwyluso’r Drefn’ ac ymateb y llywodraeth eu cyhoeddi ar 31 Ionawr ac yna cynhaliwyd dadl am yr adroddiad ar 7 Chwefror yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae’r Gweinidog wedi gofyn i Gareth Williams roi adolygiad annibynnol i’r cynnydd yn yr hydref.
Gellir darllen y 74 argymhelliad, a’r cynnydd a wnaed gyferbyn â phob un ohonynt, ar wefan Llywodraeth Cymru.











