Erbyn diwedd mis Awst, bydd y partïon wedi cytuno’n derfynol ar fanylion pellach y Cod.
Mae’r Cod yn golygu y bydd mwy o ryddid o hyn ymlaen i drafod manylion contractau rhwng ffermwyr a phroseswyr llaeth a bydd telerau’r contractau’n decach ac yn fwy eglur.
Dylai roi mwy o ryddid i ffermwyr drafod telerau’r contractau gan gynnwys prisio a’r cyfnod rhybudd a bydd yn haws i ffermwyr ddad-wneud contract os nad ydynt yn hapus gyda’r pris maent yn ei dderbyn am eu cynnyrch.
Gan siarad yn y Sioe Frenhinol lle daethpwyd i’r cytundeb, dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Alun Davies:
"Mae’r sector llaeth yn rhan allweddol o’r diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gan y sector ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy.
"Rwyf wedi bod yn rhan o drafodaethau diweddar i ddatrys y pryderon cyfredol ynghylch prisiau llaeth, gyda’r nod o sicrhau llwyddiant y sector yn y tymor hir.
"Rwy’n hynod falch bod y cynhyrchwyr a’r proseswyr llaeth wedi cytuno’n wirfoddol ar delerau’r Cod Ymarfer ynghylch contractau cyflenwi llaeth yma yn y Sioe Frenhinol. Roeddwn wedi bod yn pwysleisio bod angen i’r diwydiant ar lefel Prydain gyfan ddod o hyd i ateb, er mwyn ceisio sicrhau chwarae teg yn y farchnad llaeth. Mae hyn yn gam cadarnhaol iawn, ac rwy’n hyderus y bydd y datblygiad hwn yn help gwirioneddol i wella pethau yn y sector.
"Byddaf i, ynghyd â Gweinidogion Amaethyddiaeth eraill y DU, yn cefnogi’r trafodaethau a fydd yn parhau o fewn y diwydiant dros yr wythnosau nesaf ynghylch manylion gweithredu’r cod. Mae’r Gweinidogion eraill a minnau’n gytûn ei bod yn hanfodol cadw llygad ar y Cod, ac rwy’n annog y sector i gyflwyno trefniadau annibynnol ar gyfer cymrodeddu.
"Byddaf hefyd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi mwy o bwerau i Ddyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd.
"Byddaf yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth ddrafft bosibl i weithredu elfennau priodol o Becyn Cynnyrch Llaeth yr UE yn yr Hydref. Rwy’n mawr obeithio na fydd angen cyflwyno deddfwriaeth, ac y bydd Cod Ymarfer sy’n cael ei weithredu’n gywir yn helpu i greu cadwyn gyflenwi llaeth decach, fwy eglur – rhywbeth a fydd o fantais i bawb."











