Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ffermwr Ifanc newydd yn ennill Gwobr Goffa Brynle Williams

Y ffermwr Ifanc, Sion Thomas Williams, sydd wedi ennill Gwobr Goffa Brynle Williams 2012.
Dydd Mawrth 24 Gorffennaf 2012

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi'r prynhawn yma, yn adeilad y Ffermwyr Ifanc, gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Alun Davies, yng nghwmni Mary Williams, gwraig y diweddar Brynle.

Fe wnaeth Sion Thomas Williams ynghyd â’i wraig Claire, sicrhau tenantiaeth 10 mlynedd ar fferm Beili Ficer Llansawel ger Llandeilo  ym mis Hydref 2010, wedi graddio o Brifysgol Harper Adams.

Mae gan y busnes ddiadell fasnachol o dros 1,000 o famogiaid a diadell bedigri o 50 Texel a diadell fechan o Charollais pedigri.

Mae’r ffermwyr wedi defnyddio Cyswllt Ffermio, gwasanaeth cynllunio y fferm gyfan i helpu nhw brynu’r fferm a llunio’r cais ar gyfer cynllun YESS.

Yn ail roedd Moi Ellis Dafydd, Iolo Llwyd Evans, Richard Norton Lewis a Dora Ann Eynon.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru Wobr Goffa Brynle Williams ddwy flynedd yn ôl er mwyn cydnabod cyfraniad Mr Williams fel Aelod Cynulliad ac fel ffermwr gweithgar.

Mae’r wobr yn coffau bywyd y cyn AC a hefyd yn dathlu llwyddiannau ffermwyr ifanc sydd wedi bod ynghlwm yn y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Rwy’n gwybod cymaint yr oedd Brynle yn mwynhau Sioe Frenhinol Cymru ac mae’n anrhydedd i mi gael cyflwyno’r wobr hon er cof amdano heddiw.

“Hon, yr ail flwyddyn i ni gyflwyno Gwobr Goffa Brynle Williams, yw ond megis dechrau gwaddol parhaol i ymrwymiad Brynle i amaethyddiaeth ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi enillydd teilwng yr anrhydedd hon.

“Roeddwn yn falch iawn o weld safon uchel yr ymgeiswyr. Yr enillydd, Sion Thomas Williams, yw'r math o ffermwr ifanc, arloesol yr ydym am weld yn ffynnu yn niwydiant amaethyddol Cymru. Drwy sefyll ar ran ffermwyr ifanc a’u cefnogi drwy’r Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid gallwn sicrhau bod y diwydiant yn mynd o nerth i nerth ac yn sefyll yn gadarn wrth wynebu dyfodol llewyrchus.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 24 Gorffennaf 2012 Ffermio a chefn gwlad Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i