Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyfres newydd o daflenni’n hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, wedi lansio cyfres o daflenni yn yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n amlygu atyniadau Llwybr Arfordir Cymru i dwristiaid.
Dydd Llun 06 Awst 2012
Cyfres newydd o daflenni’n hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru

Agorodd y Gweinidog y Llwybr yn swyddogol ym mis Mai, sy’n golygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf erioed i gael llwybr di-dor ar hyd ei harfordir. Disgwylir i’r llwybr 870 milltir o hyd ddenu 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Ymwelodd y Gweinidog â stondin Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol i lansio wyth o daflenni newydd, a phob un yn sôn am wahanol rannau o’r Llwybr.

Wrth siarad yn yr Eisteddfod, dywedodd y Gweinidog:

“Bydd yr wybodaeth yn y taflenni’n helpu i greu mwy o gyhoeddusrwydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a bydd yn denu mwy o ymwelwyr ledled y wlad ac wrth gwrs yma i’r Fro. Bydd cymunedau arfordirol yn manteisio ar y cynnydd hwn yn niferoedd yr ymwelwyr, ac rydyn ni’n disgwyl i’r diwydiant twristiaeth fanteisio ar y Llwybr ar hyd a lled yr arfordir.

“Yn ôl Arolwg gan Croeso Cymru, mae tua chwarter y busnesau twristiaeth ar hyd yr arfordir wedi dweud bod agor Llwybr Arfordir Cymru ar 5 Mai wedi cael dylanwad positif ar eu busnesau.”

Bydd yr argraffiad cychwynnol o 7,000 o daflenni’n cael eu dosbarthu i ganolfannau croeso ledled Cymru. Byddant hefyd ar gael mewn archfarchnadoedd, gorsafoedd petrol, mannau twristiaeth, lletyau a mannau trafnidiaeth.

Bu Llywodraeth Cymru’n gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW), un ar bymtheg o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol i ddatblygu Llwybr Arfordir Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi hyd at £2 filiwn y flwyddyn er 2007 i wireddu ei huchelgais i greu llwybr 870 milltir o hyd sy’n mynd yr holl ffordd o amgylch arfordir Cymru. Cafwyd buddsoddiad gwerth £4 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop dros gyfnod o bedair blynedd i gyflawni’r nod.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Mynediad i'r Arfordir a Llwybr Arfordir Cymru

Gwefannau

walescoastpath

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 06 Awst 2012 Yr Amgylchedd Programme for Government - Sustainability Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i