Cafodd Artisan Foods ei sefydlu ychydig o fisoedd yn ôl gan Owen Dawson o Langollen, ac eisoes mae Eurospar ymhlith ei sylfaen o gwsmeriaid sy’n tyfu.
Yn ogystal â rhestr gadarn o gwsmeriaid o Gymru, mae’r gŵr 30 oed yn dechrau gweld diddordeb cynyddol mewn cynnyrch o Gymru gan gwsmeriaid dros y ffin mewn ardaloedd fel Swydd Gaer a Swydd Amwythig.
Cwmni cyfanwerthol yw Artisan Foods sy’n dosbarthu cynnyrch delicatessen a chynnyrch arbenigol o Gymru. Mae’r cwmni wedi’i leoli yn Rhuthun ac yn dosbarthu cynnyrch i ardal o radiws o 70 milltir.
Pan oedd yn cychwyn arni, manteisiodd Owen ar help gan Fwrsariaeth Menter Sir Ddinbych.
Mae’r fwrsariaeth yn cael ei hariannu gan yr asiantaeth datblygu gwledig, Cadwyn Clwyd, fel rhan o’u rhaglen adfywio uchelgeisiol gwerth £3.6 miliwn ar gyfer ardal wledig Sir Ddinbych drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) drwy Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.
Cafodd y busnes grant o £2,000 a helpodd i dalu am offer, mannau storio a marchnata.
Dywedodd Owen:
"Gwelais fod bwlch yn y farchnad wrth i ddigonedd o bobl gynhyrchu cynnyrch o’r ansawdd gorau a hefyd nifer gynyddol o adwerthwyr eisiau ei werthu, ond nid oedd llawer o ddosbarthwyr oedd yn fodlon ei gludo o un lle i’r llall.
"Nawr, mae’r busnes wedi cyrraedd ble’r oeddwn wedi gobeithio y byddai’n cyrraedd, ac rwy’n mwynhau’r cyfrifoldeb o fod yn fos ar fy hun. Mae fy llwyddiannau a fy methiannau yn seiliedig yn gyfan gwbl ar y penderfyniadau a wnaf, ac mae adeiladu fy musnes o ddim a’i weld yn tyfu wedi bod yn werth chweil hyd yma.
"Ar hyn o bryd, rwy’n canolbwyntio ar gludo cynnyrch o Gymru dros y ffin. Rwy’n gweld galw cynyddol am fwyd o Gymru yn Lloegr, oherwydd er bod y bwyd yn dal i gael ei gynhyrchu’n lleol, mae ychydig yn wahanol i’r hyn sydd ar silffoedd y siopau yn Lloegr fel arfer."
Wrth i’r gwaith gynyddu, mae Owen yn bwriadu cyflogi staff i ysgwyddo’r gwaith cynyddol a ddaw gyda phwysau ei fusnes dosbarthu sy’n tyfu ac yn blodeuo.
Yn ddiweddar mae Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, wedi sefydlu grŵp i edrych ar raglen newydd y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer 2014-2020.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Mae llwyddiannau fel Artisan Foods yn dangos pa mor bwysig yw’r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru. Rwy’n falch o weld sut y gall buddsoddiad gan y Cynllun wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn, nid yn unig i unigolion, ond hefyd i’r economi ehangach yn ystod cyfnod anodd yn ariannol.
"Rwy’n benderfynol o barhau i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl sy’n deillio o’r cyfleoedd a ddaw wrth lunio’r Cynllun Datblygu Gwledig newydd.
"Bydda i’n ymchwilio i bob posibilrwydd a phob opsiwn, ac yn adeiladu ar y gwaith gwerthfawr sydd eisoes yn cael ei gyflawni o dan y cynllun presennol."











