Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Rhowch gynnig ar Glastir

Mae’r newidiadau i wneud y broses o ymuno â Glastir yn haws wedi’u cwblhau ond mae’r dyddiad cau ar gyfer ymuno â’r cynllun yn prysur agosáu.
Dydd Llun 16 Ebrill 2012

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am Elfen Cymru Gyfan Glastir (AWE) wedi’i ymestyn i ddydd Llun 23 Ebrill 2012 (ar gyfer contract sy’n dechrau’n 2013).

Ers y cylch ceisiadau diwethaf, mae gwelliannau pwysig wedi’u gwneud.  Os oeddech chi’n un o’r ffermwyr hynny oedd yn methu â chyrraedd y trothwy pwyntiau yn 2012, rydym yn eich cynghori’n gryf i roi cynnig arall arni a’r tro hwn, defnyddiwch y cerdyn sgorio electronig newydd.  Mae’n bosibl y cewch eich siomi ar yr ochr orau.  

Os ydych chi wedi ystyried ymuno â Glastir o’r blaen, mae’n bwysig eich bod yn sylweddoli bod pethau wedi newid.  Oeddech chi’n gwybod mai dim ond 4 o Opsiynau AWE oedd yn rhaid i ffermwr eu cynnal ar gyfartaledd yn 2012 er mwyn cyrraedd y trothwy pwyntiau angenrheidiol?

Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth:

"Mae llawer o’r newidiadau sydd wedi’u gwneud bellach i Glastir a’i brosesau yn golygu bod Glastir lawer fwy deniadol a rhwydd i ffermwyr.  Mae’r pwyntiau ar gyfer yr opsiynau unigol yn uwch, mae’r gyfradd talu gyffredinol fesul hectar yn uwch ac mae llai o waith papur.

"Mae Glastir yn elfen bwysig iawn o amcanion a rhwymedigaethau amgylcheddol Llywodraeth Cymru.  Mae yma i aros ac rwy’n eich cynghori’n gryf i ymgeisio i ymuno â’r cynllun cyn y dyddiad cau."

Dyma rai o’r prif welliannau:

  • Mae gwerth y pwyntiau a therfynau’r pwyntiau ar gyfer pob opsiwn wedi  cynyddu.
  • Gall yr ymgeiswyr hynny sy’n dewis y trothwy mynediad is gael eu pwyntiau llawn trwy ymrwymo i chwistrellu 100% o’u slyri drwy Opsiwn 14.  Os na all yr ymgeisydd ymrwymo i 100%, mae modd iddo ddewis Opsiwn 14b sef chwistrellu 75% o’i slyri ond rhaid iddo ddewis rhagor o opsiynau i gyrraedd ei drothwy pwyntiau.
  • Mae Opsiwn 8 y cynllun nawr ar gael ar gyfer Coetiroedd (parhau i reoli coridor ar lan nant).
  • Mae’r holl opsiynau a gyflwynwyd o ganlyniad i Adolygu Glastir 2011 nawr ar gael i bob ymgeisydd (gan gynnwys yr opsiwn ar gyfer ffin 2 metr o led).
  • Llacio gofynion dyddiadur stocio'r rheini sy’n dewis opsiynau 15 a 15B (tir pori parhaol gydag ychydig iawn o fewnbynnau neu ddim mewnbynnau o gwbl)
  • Gellir defnyddio tir sy’n gymwys ar gyfer opsiynau 41A a 41B (tir agored) i gynnal opsiynau rheoli eraill cymwys.
  • Gellir defnyddio opsiynau 19 ac 19B (rheoli glaswelltir gwlyb ar dir isel gyda neu heb bori cymysg) ar barseli o ucheldir sydd heb eu dynodi fel “tir agored” cyn belled ag y gellir bodloni’r holl opsiynau rheoli.

Dylai ymgeiswyr hefyd fod yn ymwybodol bod y capasiti slyri y gellir ei storio a nodir yn yr adran ‘Sut i Lenwi’ yn llyfryn esboniadol 2013 yn anghywir.  Rhaid i chi allu storio o leiaf 100m3 ac nid 1000m3 fel y nodir yn y llyfryn.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r cynllun ond eich bod yn cael trafferth i lenwi may y cais, cysylltwch â’ch swyddfa Ranbarthol fydd yn gallu’ch helpu.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 16 Ebrill 2012 Ffermio a chefn gwlad Glastir Programme for Government - Sustainability Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i