Pwrpas ymweliad y Dirprwy Weinidog yw mynd i gyfarfod y Cyngor fel rhan o Dîm Gweinidogol y DU, ynghyd â Gweinidogion y DU a Llywodraethau Datganoledig eraill er mwyn rhoi cynrychioliaeth gref i fuddiannau amaethyddiaeth Cymru mewn trafodaethau ar ddiwygio'r PAC.
Gan siarad cyn y cyfarfod dywedodd y Dirprwy Weinidog:
"Mae trafod telerau diwygio'r PAC yn broses hir iawn sydd angen trafodaeth ar sawl lefel; o fewn Cymru, y DU ac Ewrop.
"Rwyf wedi ymrwymo i lais Cymru gael ei glywed yn Ewrop, gan barhau i wneud hynny yng nghyfarfod y Cyngor yn Lwcsembwrg. Byddaf yn gweithio’n agos gyda holl weinyddiaethau’r DU yn ogystal ag arwain y drafodaeth gyda’r diwydiant amaethyddiaeth yng Nghymru i lunio safle unedig Cymreig."
Mae’r agenda yn cynnwys agweddau penodol ar ddiwygio'r PAC i’w trafod megis capio ac ailddosbarthu taliadau, ffermwyr bach a ffermwyr ifanc.
Dywedodd Mr Davies:
"Mae’r Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yn chwarae rhan bwysig yn niwygio'r PAC, ac rwyf wedi gweld prawf fod y safle Cymreig yn cael ystyriaeth deg, fydd yn ei dro yn arwain at drafodaeth a chytundebau fydd yn dod â’r fargen orau bosib i Gymru.
"Rwy’n bwriadu parhau i siarad dros Gymru a chryfhau'r broses yma wrth i’r diwygiadau fynd rhagddynt."











