Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Rhaglen brechu moch daear ar waith yng Ngogledd Sir Benfro

Mae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, wedi cadarnhau bod rhaglen frechu moch daear arloesol Cymru wedi dechrau o ddifrif.
Dydd Iau 14 Mehefin 2012

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai’n mynd ati i roi rhaglen brechu moch daear ar waith o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys fel rhan o’i ymdrechion i ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru.

Yn dilyn tri mis o waith caled y tu ôl i’r llenni a hyfforddi staff i gynnal y rhaglen, dechreuodd y rhaglen frechu’n ffurfiol ddydd Llun 11 Mehefin a bydd yn parhau trwy gydol yr haf a dechrau’r hydref.

Hyd yn hyn, mae X o foch daear wedi cael eu trapio a’u brechu.  Dyma’r tro cyntaf i raglen trapio a brechu moch daear mor uchelgeisiol gael ei rhoi ar waith. 

Wrth siarad am y rhaglen, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd:

“Mae ein Fframwaith strategol ar gyfer Dileu TB yn cydnabod bod yn rhaid i ni ymdrin â TB Gwartheg o bob math, gan gynnwys bywyd gwyllt os ydym yn mynd i lwyddo i ddileu’r clefyd creulon hwn.

“Penderfynais fynd ymlaen â’r rhaglen frechu ym mis Mawrth ac rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu symud y gwaith yn ei flaen mor gyflym a bod y rhaglen frechu wedi dechrau yn yr Ardal Triniaeth Ddwys.

“Mae ein penderfyniad i roi rhaglen frechu ar waith wedi’n galluogi i symud yn ein blaenau’n gyflym ac yn bendant i ddatblygu rhywfaint o imiwnedd i TB o fewn y boblogaeth foch daear.  Rydym yn credu y bydd y rhaglen hon yn lleihau’r risg o drosglwyddo TB rhwng gwartheg a moch daear.

“Hoffwn ddiolch i ffermwyr a thirfeddianwyr am weithio gyda ni.  Byddwn yn monitro canlyniadau’r rhaglen frechu a’n rhaglen ddileu gyfan yn ofalus er mwyn sicrhau bod y gwaith hwn yn ein symud tuag at wireddu ein prif nod sef rhyddhau Cymru o grafangau TB Gwartheg.”

Mae’r rhan helaeth o’r Ardal Triniaeth Ddwys yng ngogledd Sir Benfro ond mae’n cynnwys rhannau bach o Geredigion a Sir Gaerfyrddin hefyd.  Maint yr Ardal Triniaeth Ddwys yw rhyw 288 cilometr sgwâr.

Staff Llywodraeth Cymru sy’n cynnal y rhaglen frechu hon ac maent wedi cwblhau cwrs yr Asiantaeth Ymchwil Bwyd a’r Amgylchedd (FERA) sy’n ymwneud â thrapio moch daear mewn cawell a rhoi pigiad iddynt.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

TB mewn gwartheg

Tagiau

Yr amgylchedd a chefn gwlad 14 Mehefin 2012 Iechyd a lles anifeiliaid TB Gwartheg Ffermio a chefn gwlad Programme for Government - Rural Communities Programme for Government - Sustainability Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i