Gan siarad yn eu cyfarfod blynyddol trafododd y Dirprwy Weinidog, Alun Davies, bynciau megis diwygio'r PAC a ffurf y Cynllun Datblygu Gwledig newydd.
Dywedodd:
"I adeiladu dyfodol llewyrchus, mae’n rhaid i ffermwyr a Llywodraeth Cymru fod yn arloesol a meddwl ymlaen, bod yn barod i newid a chilio o hen syniadau a hen arferion.
"Mae ffermio yng Nghymru yn mynd i newid dipyn dros y blynyddoedd nesaf. Mae gennym brosiectau pwysig i’w dwyn ymlaen, a rheoliadau newydd a strwythurau y mae’n rhaid i ni weithredu oddi tanynt.
"O ran trafodaethau diwygio'r PAC ym Mrwsel, rwyf wedi ei gwneud yn eglur i’r Comisiwn efallai y byddai’n rhaid i ni weithredu nifer o gyfraddau talu gwahaniaethol yng Nghymru i gymryd ystyriaeth o’n diwydiant amrywiol, ac rwy’n falch fod y Comisiwn wedi derbyn hynny."
Soniodd y Dirprwy Weinidog hefyd am bwysigrwydd targedu cyllid er mwyn gwneud y mwyaf o gefnogaeth i gymunedau gwledig:
"Does dim modd gorbwysleisio pa mor bwysig yn fy marn i yw symbylu gweithgarwch economaidd, yn y diwydiant ac yn ein cymunedau gwledig. Rwy’n bwriadu edrych â phersbectif newydd ar yr holl ddewisiadau fel y gallwn wneud y mwyaf o effaith ein rownd nesaf o gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig o 2014 i 2020."











