Mae'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Alun Davies, wedi cyhoeddi cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant godro yn sgil ei drafodaethau yn ystod y sioe.
Wrth annerch Sioe Frenhinol Cymru, meddia Alun Daviesi:
“Mae’r sector godro yn rhan bwysig iawn o’r diwydiant bwyd a ffermio yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru’n gweithio i sicrhau bod ei ddyfodol yn un llewyrchus a chynaliadwy. Mae ein Rhaglen Lywodraethu wedi clustnodi’r sector llaeth fel sector rydym am roi sylw a chefnogaeth arbennig iddo. Rwyf nawr am ddweud beth fydd hynny’n ei olygu.
"Cynhaliais ‘uwchgynhadledd’ i’r diwydiant llaeth fis diwethaf lle cafodd y diwydiant drafod yr hyn y carai i Lywodraeth Cymru ei wneud drosto, a sut orau y gallai wneud hynny a’i helpu mewn ffyrdd eraill. Daeth cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector ynghyd – yn gynhyrchwyr, prynwyr, proseswyr a manwerthwyr – a byddaf yn gwrando ar bob un ohonynt wrth benderfynu sut i ddatblygu’r gefnogaeth ar gyfer y diwydiant godro. Byddaf yn gwneud datganiad arall yn yr hydref.
"Rwy’n cydnabod bod angen i’r sector ddatrys problem y pris a delir am laeth a hefyd i greu fframwaith a mecanwaith i’w helpu i oroesi’n llwyddiannus at y dyfodol.
Roedd Llywodraeth Cymru’n gefnogol i’r broses a arweiniodd at y cytundeb a gafwyd yr wythnos yma o fewn y diwydiant i God Ymddygiad gwirfoddol ar gyfer contractau cyflenwi llaeth. Mae’r Llywodraeth yn credu y gwnaiff hyn yn y lle cyntaf arwain at gontractau tecach a mwy agored ar draws y sector. Byddwn yn cadw golwg fanwl ar y Cod newydd ac yn ymroi i ddod i gytundeb terfynol ar y mater yn yr wythnosau nesaf. Rwyf am weld y Cod yn newid pethau o fewn y diwydiant cyn gynted ag y gall hynny ddigwydd."Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n sylweddoli na all y Cod ddatrys yr holl broblemau sy’n wynebu cadwyn gyflenwi’r diwydiant llaeth ac rydym o blaid cryfhau’r fframwaith statudol felly er mwyn medru rheoleiddio’r farchnad.
Mae angen cryfhau’r ddeddfwriaeth sydd ar hyn o bryd ger bron Senedd Prydain i sefydlu Dyfarnwr y Cod Cyflenwyd Bwydydd i fonitro Cod Ymarfer y Cod Cyflenwi Bwydydd sy’n effeithio ar fanwerthwyr mawr. Rhaid rhoi pwerau go iawn i’r Dyfarnwr ynghyd â’r hawl i osod dirwyon. Rwyf wedi ysgrifennu ddwywaith at Lywodraeth Prydain ers Araith y Frenhines o blaid cryfhau pwerau’r Dyfarnwr. Byddaf yn parhau i bwyso am hyn ac rwy’n croesawu addewid Defra i edrych eto ar y mater. Rwy’n credu y gallai’r Dyfarnwr chwarae ei ran i bwyso a mesur effeithlonrwydd y Cod Ymddygiad gwirfoddol yn y dyfodol.
"Roedd Llywodraeth Cymru’n credu mai’r ffordd orau i ddatrys problem y contractau oedd i bartneriaid y gadwyn gyflenwi gytuno ar fesurau gwirfoddol ar lefel gwledydd Prydain i sicrhau mai’r un amodau sy’n wynebu pawb ar draws y farchnad laeth ledled Prydain. Roedd cytundeb y diwydiant yr wythnos hon i Benawdau’r Cod felly yn gam pwysig cyntaf. O’i roi ar waith yn effeithiol, dylai’r Cod osgoi’r angen am ddeddf ar y mater.
"Fodd bynnag, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ystyried yr opsiynau deddfwriaethol sydd ar gael inni o dan ‘becyn llaeth’ yr UE a byddant yn paratoi deddfwriaeth ddrafft i Lywodraeth Cymru allu ymyrryd os oes angen ynghylch ffurf a chwmpas y contractau o fewn y sector godro. Byddaf am gynnal trafodaethau pellach â’r diwydiant er mwyn cryfhau lle ffermwyr yn y gadwyn gyflenwi, gan gynnwys ystyried ffurfio cymdeithasau cynhyrchwyr yng Nghymru. Byddaf yn ymgynghori ar opsiynau posibl yn yr hydref.
"Rwy’n sylweddoli bod y toriadau arfaethedig ym mhris ei laeth i’r ffermwr yn digwydd yr un pryd â chynnydd mawr yn y costau cynhyrchu mewn sawl rhan o’r diwydiant, ac nid y sector godro yw’r lleia’ ohonyn nhw. Mae rhaglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru wedi bod yn boblogaidd iawn ymhlith ffermwyr gan roi cyngor hawdd ei gael a pherthnasol i ffermwyr ar sut i leihau costau a gwneud mwy o elw. Byddwn nawr yn cyflwyno elfennau arbennig i roi cyngor i ffermwyr godro Cymru ar sut i leihau costau cynhyrchu.
"Rwy’n deall hefyd, er mwyn gwneud y diwydiant llaeth yn fwy cynaliadwy, rhaid i fanwerthwyr a chyfranwyr eraill yn y gadwyn gyflenwi ymddwyn yn gyfrifol. Yma yn Sioe Frenhinol Cymru, rwyf wedi cwrdd â manwerthwyr i bwysleisio’r pwynt hwn a thros yr wythnosau a misoedd nesaf, byddaf yn rhoi neges debyg i gynrychiolwyr adwerthwyr llaeth eraill o Gymru, gan gynnwys y rheini yn sectorau disgownt y farchnad.
"Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais adroddiad ar y fenter ‘Hwyluso’r Drefn’. Mae’n fenter i ad-drefnu’r drefn ar gyfer rheoleiddio amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’n golygu mwy na delio â biwrocratiaeth, mae’n fwy uchelgeisiol na hynny. Ei nod yw lleihau’r baich o reoliadau, cyflwyno system sy’n deg ac addas a chadw’r ddysgl yn fwy gwastad rhwng y risgiau a’r canlyniadau.
"Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi taliadau uniongyrchol Colofn 1 y PAC i ffermwyr ar y lefelau presennol. Byddant yn rhan bwysig o incwm llawer o gynhyrchwyr ac yn helpu i gryfhau clytwaith bywyd y Gymru wledig. Byddwn yn parhau i ddadlau o blaid mwy o gefnogaeth trwy Golofn I a Cholofn II y PAC, ar lefel y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
“Rwy’n credu bod y mesurau hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru’n mynd ati mewn ffordd ymarferol a chraff i sicrhau y daw diwydiant godro Cymru o’i hanawsterau presennol yn gryfach i lwyddo yn y dyfodol. Rydym yn credu mewn chwarae teg i bawb yn y gadwyn cyflenwi llaeth – o gât y fferm i ford y gegin. Mae hyn yn hanfodol i les tymor hir pawb dan sylw.”











