Mae’r cynigion ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb Unigol, sy’n cael eu rhyddhau heddiw er mwyn ymgynghori yn eu cylch, yn nodi ymrwymiad eglur Llywodraeth y Cynulliad i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb fel rhan annatod o’r ffordd y mae’n cyflawni busnes. Mae’n pwysleisio sut mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu gweithio gyda sefydliadau partner, fel Awdurdodau Lleol a’r GIG, i ymdrin ag anghydraddoldeb a gwella amgylchiadau pawb y mae’n eu cynrychioli ac yn eu gwasanaethu.
Bydd y Cynllun terfynol, a fydd ar waith am dair blynedd, yn adeiladu ar y seiliau a osodwyd gan gynlluniau cydraddoldeb anabledd, hil a rhyw presennol Llywodraeth y Cynulliad. Bydd hefyd yn cynnwys tri maes cydraddoldeb ychwanegol, sef crefydd a chred, oedran, a chyfeiriadedd rhywiol, a nodwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2006.
Wrth gyhoeddi’r ymgynghoriad, meddai Dr Brian Gibbons:
Fel y Gweinidog â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol, fy swyddogaeth yw hyrwyddo a hwyluso mwy o gydraddoldeb, gan sicrhau bod y polisïau a ddatblygir gennym fel llywodraeth, ar y cyd â’n partneriaid, yn darparu gwasanaethau gwell i bob dinesydd. Mae cydlyniant cymunedol yn rhan allweddol o’r agenda hon, a dyna pam rwy’n awyddus i hyrwyddo gwerthoedd a rennir a chymunedau cydlynus ledled Cymru.
Yn y ddogfen ymgynghori hon, rydym wedi ceisio nodi polisïau ledled y llywodraeth sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, gan sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd pob un. Bydd y Cynllun hefyd yn seiliedig ar egwyddorion hawliau dynol.
Trwy ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Unigol, gobaith Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gosod esiampl i bob awdurdod cyhoeddus yng Nghymru a datblygu newid cadarnhaol hirdymor.
Rwyf am glywed pobl yn lleisio’u barn am ein dogfen ymgynghori, a byddwn yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru fel rhan o’r broses hon.
19 Mawrth 2008











