Mae’r Cynllun yn disgrifio sut y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu gwasanaethau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth yng nghymdeithas Cymru heddiw. Mae’n disgrifio hefyd sut y bydd yn mesur ei effaith ar grwpiau gwahanol.
Dywedodd y Gweinidog ei bod hi’n bwysig edrych ar bobl, er mwyn gwella gwasanaethau, fel unigolion sydd ag anghenion gwahanol ac sydd o bosibl yn wynebu myrdd o anfanteision.
Meddai’r Dr Gibbons:
Does dim amheuaeth bod angen gwasanaethau gwell a pholisïau gwell ar Gymru. I’w gwella, rhaid holi a gwrando’n well i weld a deall cymhlethdod anghenion ein cymdeithas amrywiol.
Rhaid inni wneud yn siwr bod gwaith Llywodraeth y Cynulliad yn adlewyrchu anghenion pawb yng Nghymru a’i bod yn hyrwyddo tegwch, parch, cydraddoldeb ac urddas.
Mae cymdeithas Cymru’n newid. Mae patrymau ymfudo’n newid; mae pobl yn fwy ymwybodol o hunaniaethau, crefyddau a diwylliannau gwahanol ac o rywioldeb a thrawsrywioldeb pobl. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd â salwch ac anabledd tymor hir, ac mae patrymau gweithio hefyd wedi newid gan gael effaith ar bobl o ran eu rhyw a’u hoed.
Wrth ddatblygu’r cynllun hwn, rydym wedi cymryd yr awenau i roi’r newidiadau sydd eu hangen ar waith i wneud yn siwr bod y freuddwyd o gael cyfle cyfartal i bob dinesydd yn dod yn realiti.
Rydyn ni’n credu ein bod ni’n dechrau ar daith ddeinamig a chyffrous. Mae’r cynllun yn rhoi sylfeini cadarn ar gyfer y newid sydd ei angen.
Mae’r cynllun wedi’i lunio ar ôl ymgynghori eang a holi trylwyr rhwng Tachwedd 2007 a dechrau eleni.
31 Mawrth 2009











