Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwaith a swyddi yn uchel ar restr yr ymatebwyr i arolwg ar gydraddoldeb gan Lywodraeth Cymru

Mae cyflogaeth yn amlwg yn broblem allweddol ym marn ymatebwyr i arolwg ar gydraddoldeb gan Lywodraeth Cymru, meddai’r Gweinidog Cydraddoldeb, Jane Hutt heddiw.
Dydd Iau 24 Tachwedd 2011

Mae'r arolwg Rhoi'r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith yng Nghymru - a gynhaliwyd ers 24 Hydref ac sy'n dod i ben ar 2 Rhagfyr - yn gofyn i bobl a ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael triniaeth annheg oherwydd pethau fel hil, rhywedd neu anabledd.

Hyd yn hyn mae'r ymatebwyr wedi rhoi cyflogaeth yn uwch ar y rhestr na phethau fel  iechyd, tai, addysg, trafnidiaeth a throseddu fel yr hyn sy'n fwyaf tebygol o fod yn sail ar gyfer gwahaniaethu yn eu herbyn - yn arbennig oherwydd eu hoedran neu rywedd.

Hefyd, mae addysg yn uchel ar restr yr ymatebwyr cyntaf - er gwaethaf eu cefndir mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn dweud y gall crefydd neu hil person fod yn  rhwystr wrth geisio cael mynediad i addysg.

Roedd cytundeb cryf mai trafnidiaeth a chyflogaeth oedd yn peri'r pryder mwyaf i bobl anabl.

Mae'r arolwg Rhoi'r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith yng Nghymru - a gynhaliwyd ers 24 Hydref ac sy'n dod i ben ar 2 Rhagfyr - yn gofyn i bobl a ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael triniaeth annheg oherwydd pethau fel hil, rhywedd neu anabledd.

Mae Llywodraeth Cymru'n holi pobl Cymru am enghreifftiau o unrhyw adeg y mae eu rhywedd, hil, crefydd neu gredo, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, bod yn feichiog, yn anabl neu'n drawsrywiol wedi gwneud gwahaniaeth i'r ffordd y maent wedi cael eu trin yn eu bywyd bob dydd.

Bydd y canlyniadau terfynol yn helpu Llywodraeth Cymru i roi'r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith. O dan y Ddeddf hon mae'n rhaid i ystod eang o wasanaethau cyhoeddus fel ysgolion, colegau, clinigau meddygon teulu a chanolfannau hamdden y cynghorau drin pawb yn deg a sicrhau eu bod yn hygyrch.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dewis mynd un gam ymhellach na Llywodraeth y DU wrth roi'r Ddeddf Cydraddoldeb ar waith drwy ddeddfu bod gofyn i'r holl awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi cyflogau eu gweithwyr er mwyn gweld a oes bwlch rhwng cyflogau menywod a dynion, a rhoi ystyriaeth i gydraddoldeb wrth gaffael nwyddau.

Dywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb Jane Hutt:

"Mae'r arolwg hwn yn dangos bod cyflogaeth yn flaenoriaeth uchel i bobl. Maent yn poeni'n fawr mai rhai grwpiau penodol fel pobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gwaethaf yn yr hinsawdd ariannol gyfredol - dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithio'n galed i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi ac yn sicrhau bod cyflogaeth a'r economi wrth wraidd ein gwaith.

"Mae'n amlwg hefyd fod pobl yn teimlo eu bod nhw ac eraill yn dal i gael eu trin yn wahanol oherwydd eu cefndir wrth iddynt geisio cael mynediad i addysg a hyfforddiant, gwasanaethau iechyd, tai ac amddiffyn rhag troseddau. Diben y Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru yw ceisio newid hyn."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Tagiau

Cydraddoldeb ac amrywiaeth 24 Tachwedd 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw   Mai >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i